Sgwrs:Gwaith y saer

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Enw

Enw golygu

S'mai Glenn? Mae yna gant-a-mil o alwedigaethau megis dramodydd, nyrs, milwr ayb, felly pam wyt ti wedi newid Saer i "Saerniaeth"? Gweler yma. Yr unig beth arall sy'n codi fy nghlustiau ydy: be ydy "saerniaeth"? Ar lafar "trin coed" ydy gwaith y saer. Diolch a chofion. Llywelyn2000 22:45, 28 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb

Heia! Newidiais enw'r erthygl oherwydd bod Wici yn arfer defnyddio teitlau'r gwaith yn hytrach na'r enwau sydd ar y gweithwyr ei hunain. "Carpentry" yw'r hyn a geir ar en, sydd naill ai'n "Saernïaeth" neu "Gwaith saer", a gelwir y person sy'n gwneud y job yma (carpenter felly yn yr iaith fain) yn "saer coed". Ond meddwl ar y peth, dwi'n credu y roeddwn yn anghywir gyda newid enw'r erthygl! 'Saer' all olygu "carpenter, wright, mason, neu artificer" ar ei ben ei hun. Felly, do - mi roeddwn yn anghywir! "Araf deg mae dal iâr" fydd yn briodol yma! Haha. Felly, beth am newid enw'r erthygl i "Gwaith saer", a sôn am y gwahanol enwau eraill sydd ar y JOB (gwaith coed, saernïaeth felly)? Neu, allet ti awgrymu unrhyw beth arall? Cofion. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:26, 28 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Efallai fod angen trafod hyn yn y caffi; mi fydda newid yr holl alwedigaethau i'r jobsys (e.e. dileu "Bardd" ond cadw "Barddoniaeth") yn golygu lot o waith. Fy hun, dw i'n meddwl fod lle i'r ddau a cheir hyn (y ddau) ar en: Poet a Poetry a felly hefyd teacher/education, musician/music, actor/acting, model/modelling, lawyer/law. Mae eraill, fel y dywedi yn ailgyfeirio e.e. gardener --> gardening, editor --> editing. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod "Wici yn arfer defnyddio teitlau'r gwaith yn hytrach na'r enwau sydd ar y gweithwyr ei hunain". Ond efallai mai fy mhroblem pennaf yw hyn: chlywais i rioed mo'r gair "saerniaeth" yn cael ei ddefnyddio am "waith y saer". Mae'n amlwg beth ydy "saer"; dydy hi ddim ymlwg beth ydy "saerniaeth". Llywelyn2000 05:48, 29 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Dwi'n cytuno â thi - dylai fod le i'r ddau, ond jyst cadw trefn 'arferol' Wici dwi. 'Sdim ots 'da fi gadw'r ddau, ond a hoffet agor hwn i drafodaeth, byddai hynny'n ddiddorol :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 08:51, 29 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Diolch Glenn. Oes, mae angen y ddau. Pan fo'n amlwg beth yw gwaith y person, defnyddir hwnnw e.e. am "adeiladwr" gweler "adeiliadu". Mae 2gwaith y saer" yn llawer gwell na "saerniaeth" - sy'n golygu "gwaith y pensaer" yn ôl rhai geiriaduron. Llywelyn2000 03:47, 6 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwaith y saer".