Sgwrs:Gwledydd y Deyrnas Unedig

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Rhyswynne

(mae'r edefyn canlynol yn dod o dudalen sgwrs Gwlad cyfystyrol, erthygl a ddilewyd.)--Rhyswynne (sgwrs) 21:30, 18 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Gwledydd cyfystrol golygu

Dw i'n deall mai 'Constituent country' yng nghyd-destun y DG y cyfeirir ato yma, ond mae'n derm gwbl ddiarth i mi yn Gymraeg. Oes esiamplau ohono'n cael ei ddefnyddio? Does dim ar Google.

Hefyd: "Gwledydd sydd wedi'u rhannu yng ngwledydd cyfystyrol yn cynnwys y Deyrnas Unedig, Denmarc, Yr Iseldiroedd, Rwsia a Ffrainc." Ag eithrio'r DG, dw i ddim yn meddwl bod dim un o'r gwladwriaethau eraill yn galw eu isrannau yn 'wledydd'.--Rhyswynne (sgwrs) 16:09, 6 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Mae gennym Gwledydd y Deyrnas Unedig sy'n trafod sefyllfa'r DU a Gweriniaethau Rwsia sy'n trafod sefyllfa Ffederasiwn Rwsia. Yn ôl yr erthygl constituent country ar en, tiriogaethau tramor yw'r gwledydd sy'n rhan o Ddenmarc (y Lasynys, Ynysoedd Faroe), Ffrainc (Polynesia Ffrengig) a'r Iseldiroedd (Aruba, Curaçao, Sint Maarten), ac yn ôl en mae Niue ac Ynysoedd Cook hefyd yn wledydd sy'n rhan o Seland Newydd. Gallwn ni greu erthyglau i ymdrin â'r rhain yn unigol (Teyrnas Denmarc, gwlad dramor (Ffrainc) [gweler fr:Pays d'outre-mer], Teyrnas yr Iseldiroedd, Teyrnas Seland Newydd). Cytuno nad yw "gwlad cyfystyrol" yn derm safonol. Mae'r sefyllfa wleidyddol yn amrywio o wladwriaeth i wladwriaeth, ond gan fod constituent country yn derm cyffredin yn y Saesneg mae erthygl en yn bodoli i esbonio'r gwahaniaethau o wlad i wlad. Gan nad oes term Cymraeg unigryw nid oes rheswm i gadw hon fel erthygl am derm, felly yn fy marn i nid oes rheswm i gadw'r erthygl hon o gwbl. Efallai y dyler ei chyfuno â gwlad? —Adam (sgwrscyfraniadau) 16:57, 6 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Gan bod Gwledydd y Deyrnas Unedig yn bodoli a gan nad oes term yn bodoli'n Gymraeg, alla i didm gweld pwynt cadw'r erthygl. Gellir falle ymhelaethu ar yr erthygl Gwlad gan gynnwys gwybodaeth constituent country o dan benawd 'Gwledydd o fewn gwladwriaethau'.--Rhyswynne (sgwrs) 07:59, 7 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Hyd y gwn i, term a fathwyd yn reit ddiweddar gan ryw was sifil yn gweithio i Lywodraeth y DU ydy "constituent country". Mae'n derm digon hyll, anghyfarwydd a dadleuol (am resymau gwleidyddol yn bennaf) yn Saesneg ond mae "Gwlad c[=g!]yfystyrol" yn waeth byth ('Cyfystyr' â be tybed?!). Dwi'n cytuno gyda'r sylwadau uchod felly i ddileu hyn ac os oes angen term Cymraeg mae cynnig Rhyswynne uchod - 'Gwledydd o fewn gwladwriaethau' - yn gwneud y tro i'r dim. Anatiomaros (sgwrs) 23:45, 7 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
ON Dwi'n awgrymu copio'r drafodaeth yma i Sgwrs Gwledydd y DU / ble bynnag rhag ofn bod y pwnc yn codi eto, cyn dileu'r erthygl. Anatiomaros (sgwrs) 23:49, 7 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwledydd y Deyrnas Unedig".