Sgwrs:Gwrthiant trydanol

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Glanhawr

Glanhawr - pa hwyl? Gwahaniaeth Potensial - dyna sydd yn y llyfrau TGAU, ond rwyt ti'n treiglo? Eto, enw gwrywaidd yw gwahaniaeth. Llywelyn2000 00:02, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Ar ben hynny, os dwi'n deall y term yn iawn, mae'r "gwahaniaeth" yn perthyn i'r "potensial" fel petai, yn hytrach na bod "potensial" yn ansoddair ar "gwahaniaeth", felly does dim treiglad. Ond mae'n hwyr. Nos da! Anatiomaros 00:24, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
ON Hynny yw, a derbyn mai difference of potential yn lle potential difference ydy'r ystyr. Anatiomaros 00:27, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Creodd Rhys yr erthygl hon - wnes i dybio taw "potential difference" oedd ei ystyr, dyna pam dreiglais i. Bydd rhaid newid hi nol te - nage Ffiseg yw'm arbenigrwydd! Glanhawr 00:30, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
O'n i wastad yn meddwl taw gair benywaidd oedd "gwahaniaeth" ond gair gwrywaidd yw e wela i yn 'y ngeiriadur...Fe newidia i'r enw nol te. Hwyl. Glanhawr 00:34, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Dwi ddim yn wyddonydd chwaith, ond hyd yn oed os dwi ar gyfeiliorn am yr ystyr mae "gwahaniaeth" yn wrywaidd fel rheol, h.y. yn safonol. Ond dwi'n credu fod rhai pobl yn y De yn deud "y wahanieth", felly dydy hynny ddim yn anghywir fel y cyfryw - os dyna sy' gan bawb yn dy ardal di mae hynny'n iawn ar lafar. O, a llongyfarchiadau i ti hefyd! Anatiomaros 00:43, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Diolch Anatiomaros - fe wna i 'ngore gyda 'mhwerau newydd! Nos Da. Glanhawr 00:56, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwrthiant trydanol".