Sgwrs:Hacio'r Iaith

Latest comment: 11 o flynyddoedd yn ôl by Ben Bore in topic Hepgor enwau unigolion

Hepgor enwau unigolion golygu

Yn fy ngolygiad diwethaf, tynnais enw pedwar cyfranwr o'r erthygl gan nad yw'n cydfynd ag ethos Hacio'r Iaith (sef gall unrhyw un gyfrannu a bod cyfraniad pawb o'r un bwys), nac ychwaith yn adlewyrchu'r ffaith bod cymaint o bobl yn rhan o'r peth (e.e. mae'r tri anghynhadledd diwethaf wedi cynnwys cyflwyniadau gan dros 20 unigolyn gwahanol, heb son am eraill a weithiodd tu cefn i'r llen fel hyrwyddwyr, technegwyr a hwyluswyr).

Os dylid enwi unrhyw un, yna dylid crybwyll Rhodri ap Dyfrig, gan mai ei syniad o ydy'r holl beth, a fo (gyda chefnogaeth hael Prifysgol Aberystwyth) sy'n sicrhau bod y prif digwyddiau yn cael eu trefnu a'u cefnogi gyda'r nawdd a'r adnoddau angenrheidiol. Yn anffodus, gan eu bod mor ddiymhongar, does fawr o son am hyn yn unrhyw gyhoeddiadau, felly mae'n anodd iawn rhoi cyfeiriadau atynt!.--Ben Bore (sgwrs) 20:49, 11 Awst 2012 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Hacio'r Iaith".