Sgwrs:Hamas

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by 2.29.172.62

Byddwn i'n petruso cyn rhoi cymaint o bwyslais ar statws democractaidd Hamas. Yn wir, fe'i etholwyd yn ddemocrataidd, ond o ysytried ei chysylltiadau â therfysgiaeth, a'i cymryd rhan mewn gweithgareddau treisgar, ddylwn fod yn eu cyfystyru â phleidiau democratiadd go iawn fel y ceir yn y Gorellewin? Hy, pleidiau sydd ddim yn annog trais ag ideoleg eithafol?

2.29.172.62

Ac yn enwedig o ysytried hyn, ymhlith pethau eraill: http://en.wikipedia.org/wiki/Hamas#Antisemitism_and_anti-Zionism.

2.29.172.62 13:18, 18 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb

Edit: Rwy'n deall brwydr enbyd pobl Palesteina; amhosib yw gwadu taw â nhw y gwnaed cam. Fel ninnau, maent yn genedl heb wladwriaeth, er nad ydw i'n ceisio cyfystyru eu dioddefaint ingol â'r eiddom. Ond, wrth draethu ffeithiau eu dioddefiant, rhaid bod y mwyaf gwrthrychol a phwyllog y gallwn fod.

2.29.172.62 14:43, 18 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb


Suicide bombing? golygu

ymosodiad hunan-laddiad - dwi'n siwr fod na derm gwell yn y Gymraeg? Llywelyn2000 09:23, 16 Awst 2008 (UTC)Ateb

Mae'r BBC, yr MoD, a gwefannau eraill yn defnyddio hunan-fomio (gweler hefyd Sgwrs:Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005). —Adam (sgwrscyfraniadau) 13:09, 16 Awst 2008 (UTC)Ateb
Pam lai. Diolch! Llywelyn2000 18:12, 17 Awst 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Hamas".