Sgwrs:Iorwerth

Sylw diweddaraf: 15 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Iorwerth/Edward

Iorwerth/Edward

golygu

"ffurf Gymraeg ar yr enw 'Edward'". Yn wir? Bianchi-Bihan 21:49, 25 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb

Swnio'n rhyfedd, efallai, ond mae'n wir. Mae'n ymddangos fod 'Iorwerth' ei hun yn enw Cymraeg go iawn ond ei fod yn cael ei ddefnyddio ers canrifoedd fel Cymreigiad/cyfieithiad o'r enw Saesneg 'Edward' hefyd (e.e. "Iorwerth I o Loegr"="Edward I o Loegr"). Gwell i mi wneud hynny'n eglurach yn yr erthygl, mae'n debyg: dydi o ddim yn dod o'r Saesneg ond mae'n enw Cymraeg sy'n cael ei ddefnyddio i gynrychioli yr enw Saesneg. Mae 'na nodyn byr yma, er enghraifft, ond dwi ddim yn siwr os yw'r ail elfen yn iawn). Nadolig Llawen! Anatiomaros 22:12, 25 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Iorwerth".