Edward I, brenin Lloegr

teyrn, gwleidydd (1239-1307)
(Ailgyfeiriad o Edward I o Loegr)

Edward I (17 Mehefin 12397 Gorffennaf 1307),[1] a elwir hefyd yn Edward Hirgoes neu Morthwyl yr Albanwyr, oedd brenin Lloegr rhwng 1272 a 1307. Mae'n cael ei gofio fel goresgynnwr Cymru a'r Alban. Cyn iddo ddod yn frenin, cyfeiriwyd ato'n gyffredin fel Yr Arglwydd Edward. Roedd yn fab cyntaf i Harri III. O oedran ifanc roedd gan Edward ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth teyrnas ei dad, lle'r oedd llawer o wrthryfela gan farwniaid Lloegr. Ar ôl Brwydr Lewes ym 1264, cafodd Edward ei ddal yn wystl gan y barwniaid gwrthryfelgar, ond llwyddodd i ddianc ar ôl ychydig fisoedd gan drechu eu harweinydd Simon de Montfort ym Mrwydr Evesham ym 1265. Yna ymunodd Edward â Chroesgad i'r Wlad Sanctaidd. Roedd ar ei ffordd adref ym 1272 pan gafodd wybod bod ei dad wedi marw. Cyrhaeddodd Loegr ym 1274 a choronwyd ef yn Abaty Westminster.

Edward I, brenin Lloegr
Ganwyd17 Mehefin 1239 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 1307 Edit this on Wikidata
Burgh by Sands Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon Edit this on Wikidata
TadHarri III, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
MamEleanor o Provence Edit this on Wikidata
PriodElinor o Gastilia, Marged o Ffrainc Edit this on Wikidata
PlantHarri o Loegr, Elinor o Loegr, iarlles Bar, Joan o Acre, Alphonso, iarll Caer, Margaret o Loegr, duges Brabant, Mary o Woodstock, Elisabeth o Ruddlan, Edward II, brenin Lloegr, Thomas o Brotherton, iarll 1af Norfolk, Edmund o Woodstock, iarll 1af Caint, Eleanor o Loegr, Joan o Loegr, John o Loegr, Alice o Loegr, Juliana o Loegr, Berengaria o Loegr, Alice o Loegr, Isabella o Loegr, Beatrice o Loegr, Blanche o Loegr, Katherine of England Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Plantagenet Edit this on Wikidata

Treuliodd Edward lawer o'i deyrnasiad yn diwygio gweinyddiaeth frenhinol a'r gyfraith. Ond, yn gynyddol, tynnwyd sylw Edward tuag at faterion milwrol. Ar ôl atal gwrthryfel yng Nghymru ym 1276–77, ymatebodd Edward i ail wrthryfel ym 1282–83 gyda rhyfel concwest ar raddfa lawn. Ar ôl i'w fyddin drechu a lladd y tywysog Llywelyn ap Gruffydd, daeth Cymru o dan reolaeth Lloegr. Adeiladodd Edward gyfres o gestyll a threfi yng nghefn gwlad a rhoi Saeson i fyw yno. Nesaf, cyfeiriwyd ei ymdrechion tuag at Deyrnas yr Alban. Parhaodd y rhyfel a ddilynodd hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth. Ar yr un pryd, roedd Edward yn rhyfela â Ffrainc, a oedd yn un o gynghreiriaid yr Alban, ar ôl i’r Brenin Philippe IV o Ffrainc atafaelu Dugiaeth Vasconia. Er i Edward adfer ei ddugiaeth, rhyddhaodd y gwrthdaro hwn bwysau milwrol Lloegr yn erbyn yr Alban. Ar yr un pryd roedd problemau gartref. Yng nghanol y 1290au, arweiniodd cost ei ryfeloedd at lefelau uchel o drethiant, a chyfarfu Edward â gwrthwynebiad gan ei bobl ei hun. Pan fu farw'r Brenin ym 1307, gadawodd i'w fab Edward II ryfel parhaus gyda'r Alban a llawer o broblemau ariannol a gwleidyddol.

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Edward, mab i Harri III ac Eleanor o Brovence, yn 1239 yn Llundain; priododd ag Eleanor o Castile yn 1254. Arweiniodd fyddin yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd yn 1263, ond heb lawer o lwyddiant. O 1268 i 1274 roedd oddi cartref, yn brwydro ar yr wythfed Groesgad, ac wedyn bu'n ymweld â'r Pab yn yr Eidal a Ffrainc. Bu farw ei dad Harri III yn 1272, a daeth Edward yn frenin Lloegr o hynny ymlaen.

Edward a Chymru

golygu

Roedd y cyfnod cyn i Edward goncro Cymru yn gyfnod o wrthdaro ac ymladd rhwng arweinwyr gwahanol ranbarthau Cymru. Cyn adeg y Goncwest Normanaidd, roedd Cymru yn bedair brenhiniaeth gymharol sefydlog. I’r gogledd orllewin roedd Gwynedd, Powys yn y canolbarth, y Deheubarth yn y de orllewin a Morgannwg yn y de ddwyrain.

Wedi Brwydr Hastings yn 1066, creodd y Normaniaid dair arglwyddiaeth ar ffiniau Cymru a oedd wedi eu canoli yng Nghaer, yr Amwythig a Henffordd. Cafodd y rhain eu galw yn arglwyddiaethau’r Mers; ystyr ‘mers’ yw ffin. Eu rôl oedd rhwystro’r Cymry rhag ysbeilio dros y ffin.

Yn ystod y 13g, llwyddodd arweinwyr tair cenhedlaeth o deulu brenhinol Gwynedd i uno’r penrhyn mor effeithiol fel iddyn nhw gael eu derbyn yn arweinwyr Cymru gyfan. Y cyntaf oedd Llywelyn ap Iorwerth neu Lywelyn Fawr, a ddisgrifiwyd fel ‘Tywysog Cymru’ ar ei farwolaeth yn 1240. Ei fab Dafydd oedd y cyntaf i hawlio’r teitl mewn gwirionedd. Yn 1244, cafodd nai Dafydd, Llywelyn ap Gruffydd, ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan Harri III a’r holl arweinwyr Cymreig a dalodd wrogaeth iddo.

Newidiodd y sefyllfa yn llwyr pan esgynnodd Edward I i orsedd Lloegr. Ar y cefndir hwn a’r datblygiadau gwleidyddol cysylltiedig bu gwrthdaro cyson rhwng Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru, ac Edward I, Brenin Lloegr.

Penderfynodd Edward felly bod nifer o resymau o blaid concro Cymru:

  • Polisi ymlediaeth (Saesneg:expansionism) Edward a’i benderfyniad i ddod yn feistr ar Brydain gyfan drwy oresgyn Cymru a’r Alban
  • Ei uchelgais gwleidyddol i sefydlu rheolaeth Lloegr yng Nghymru. Llwyddodd i gyflawni hyn drwy basio Statud Rhuddlan (1284) yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282.
  • Ei atgasedd tuag at y Brythoniaid yn gyffredinol ac at Lywelyn yn benodol.

Drwy gydol yr Oesoedd Canol roedd tywysogion Cymru wedi parhau i fod yn ddeiliaid i frenhinoedd Lloegr, a chymerodd Edward yn ganiataol y byddai Llywelyn yn talu gwrogaeth iddo. Gwrthododd Llywelyn ar bum achlysur ac, i rwbio halen yn y briw, cynigiodd briodi merch hen elyn Edward, sef Eleanor, merch Simon de Montfort.

Ceisiodd Edward fanteisio i’r eithaf ar gweryla a gwrthdaro Llywelyn gydag arweinwyr eraill Cymru. Ymunodd un o’r rhain, Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys, â brawd Llywelyn, Dafydd, gan gynllwynio i’w lofruddio. Methiant oedd y cynllwyn hwn a bu’n rhaid i Dafydd ffoi am ei fywyd i Loegr.

Erbyn 1277 roedd Edward wedi colli amynedd ac arweiniodd byddin enfawr o 15,000 i Gymru, gyda 9,000 o’r milwyr hyn wedi eu recriwtio yng Nghymru. Hwn oedd yr achlysur cyntaf i Edward geisio goresgyn Cymru, sef Rhyfel Cyntaf Annibyniaeth yn 1276-77.

Daeth y methiant hwn â goblygiadau i Gymru:

  • Cafodd Gwynedd ei hamgylchynu gan diroedd dan reolaeth Edward
  • Adeiladwyd cestyll newydd yn Rhuddlan, y Fflint, Aberystwyth a Llanfair-ym-Muallt a chryfhawyd cestyll eraill
  • cyflwynwyd cyfraith Lloegr a phenodwyd Saeson yn swyddogion mewn ardaloedd a oedd yn eiddo i arweinwyr Cymreig cyn hynny
  • roedd arweinwyr Powys a'r Deheubarth bellach yn weision i goron Lloegr.

Cafodd Dafydd ei wobrwyo â thiroedd i’r dwyrain o afon Conwy, ond daeth yn fwy anfodlon â rheolaeth Lloegr a threfnodd wrthryfel yn 1282 ynghyd â Llywelyn. Ymledodd hwn yn fuan iawn ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Dyma'r Ail Ryfel Annibyniaeth, a barodd rhwng 1282 a 1283. Ymosododd Edward unwaith eto a threchwyd y Cymry. Lladdwyd Llywelyn mewn sgarmes ger Cilmeri, yn ardal Llanfair-ym-Muallt, ym mis Rhagfyr 1282, ac ar ôl i Dafydd gael ei ddal ym mis Ebrill 1283, cafodd yntau ei ddienyddio. O hynny ymlaen, roedd Edward yn rheoli'r tiroedd yng Nghymru a ddaeth i gael eu hadnabod fel ‘y Dywysogaeth’, ac yn y tiroedd hyn ‘cyfraith y Brenin’ oedd mewn grym. Rhannwyd gweddill tir Cymru yn Arglwyddiaethau’r Mers, a’u rheolwyr nhw oedd Arglwyddi’r Mers.

Wynebodd Edward rai gwrthryfeloedd ymhlith uchelwyr Cymru i’w drefn newydd - er enghraifft, Rhys ap Maredudd, a ddechreuodd wrthryfel yn y de yn 1287, a Madog ap Llywelyn, a hawliodd deitl Tywysog Cymru mewn gwrthryfel yn 1294-95.

Ar ôl i Edward eu trechu, gwelwyd cynnydd yn statws a nifer gwŷr traed y Cymry. Roedd 10,000 o’r 12,000 o wŷr traed a saethwyr a drechodd yr Albanwyr yn Falkirk (1298) yn Gymry. Gwasanaethodd tua 5,000 o Gymry yn Bannockburn (1314) a’r un nifer o bosibl yn Crécy (1346). Er eu bod yn edrych yn drawiadol yn eu lifrai gwyn a gwyrdd, roedd y Cymry yn anufudd ac annisgybledig, ac roedd yn well ganddynt lofruddio eu gwrthwynebwyr yn hytrach na’u dal.[2]

Cestyll Edward I a’r Bwrdeistrefi

golygu

Er mwyn dal gafael ar y tiroedd roeddent wedi eu meddiannu, aeth y Saeson ati i godi neu ailgodi cestyll ledled Cymru. Roedd cestyll Edward yn adeiladau mawr urddasol ac roedd iddynt ddwy brif swyddogaeth. Swyddogaeth filwrol oedd y gyntaf. Byddent yn gartref i filwyr yn barod i ymladd os oedd y Cymry’n gwrthryfela. Yr ail swyddogaeth oedd dychryn y Cymry er mwyn iddynt ildio.

Trefi newydd a adeiladwyd o gwmpas cestyll oedd y bwrdeistrefi. Mewnfudwyr Seisnig oedd yn byw yn y bwrdeistrefi ac roeddent yn cael breintiau arbennig. Yn swyddogol, doedd y Cymry ddim yn cael byw yn y rhan fwyaf o’r bwrdeistrefi. Roedd y Cymry’n dal dig at y bwrdeistrefi a daethant yn symbol o oresgyniad y Saeson. Roedd Saeson yn ymsefydlu mewn ardaloedd gwledig hefyd. Yn Ninbych, gorfodwyd ffermwyr o Gymry i adael eu cartrefi a mynd i fyw yn rhywle arall. Yna, rhoddwyd eu tir i Saeson o Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.

Gwragedd

golygu

Marwolaeth

golygu

Ym mis Chwefror 1307 ymosododd Robert Bruce ar y Saeson. Pan oedd Edward ar ei ffordd i'r Alban, dioddefodd o dysentri. Bu farw Edward yn Burgh by Sands.

Ffilm a llenyddiaeth

golygu

Cafodd ei bortreadu gan yr actor Patrick McGoohan yn y ffilm Braveheart.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Prestwich, Michael (2003). The Three Edwards: War and State in England, 1272–1377 (yn Saesneg) (arg. 2ail). LLundain: Routledge. ISBN 978-0-4153-0309-5.
  2. "Datblygu rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 29 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd:
Harri III
Brenin Lloegr
20 Tachwedd 12727 Gorffennaf 1307
Olynydd:
Edward II