Sgwrs:Japaneg
Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Xxglennxx ym mhwnc Defnyddio "Japaneg" neu "Siapanëeg"/"Siapaneg"
Defnyddio "Japaneg" neu "Siapanëeg"/"Siapaneg"
golyguMae'n rhaid inni ddefnyddio'r gair Japaneg pan rydym yn cyfeirio at yr iaith ei hun, ac am un rheswm yn unig sydd hynny: gan ein bod ni wedi sefydlu enw'r erthygl yn "Japaneg." Pe sefydlom enw'r erthygl yn "Siapanëeg/Siapaneg," wedyn gallwn ni fynd wrthi i ddefnyddio'r geiriau hynny, ond rydym heb. Mae'n rhaid cadw trefn i erthyglau sydd â gwahanol enwau am yr un "pwnc" yn y Gymraeg, ac mae hefyd yn edrych llawer gwell wrth ddefnyddio'r un enw trwy gydol yr erthygl yn lle "Siapanëeg" yma, "Siapaneg" yno, ac "Japaneg" acw. Xxglennxx 21:22, 13 Ebrill 2010 (UTC)