Sgwrs:Llychlynwyr

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Tarddiad enwau

Tarddiad enwau golygu

Ar en mae en:Viking a en:Norsemen; a ydym yn defnyddio'r un gair yn y Gymraeg, sef 'Llychlynnwr'? Oherwydd byddwn i, yn bersonol, yn defnyddio "Ficing" am "Viking" a "Llychlynwyr" am "Norsemen". Beth ydych chi'n meddwl? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 03:23, 19 Awst 2011 (UTC)Ateb

Dwi'n anghytuno mae'n ddrwg gen i. Llychlynwyr yw Vikings yn sicr, ond nid yw'r term Norsemen yn ymddangos yn y geiriadur, ond Llychlynnaidd yw'r gair am Norse. Beth am gael "Pobl Llychlynnaidd ar gyfer Norsemen gyda dolen Gweler hefyd ar gopa'r dudalen? Thaf 09:28, 19 Awst 2011 (UTC)Ateb
Gan barhau gyda fy nhraddodaid o godi cwestiynnau ar dualennau sgwrs a chynnig dim datrysiadau, sut byddem yn cyfeirio at Scandinavians o ystyrioed mae gwledydd Llychlyn dan ni'n galw'r rhanbarth mae'n nhw'n byw ynddo? --Ben Bore 10:14, 19 Awst 2011 (UTC)Ateb
Dyw Scandinavia ddim yn y Geiriadur Mawr (sydd ddim yn andros o fawr o gysidro faint sydd dim ynddi...), rhestr Bwrdd yr Iaith na Geiriadur ar-lein y BBC, ond mae Adran Gymraeg Coleg y Drindod yn cynnig Sgandinafaidd am Scandinavian ond Llychlyn am Scandinavia. Heblaw fod gan unrhywun eiriadur sy'n cynnig rhywbeth gwell, beth am "Sgandinafiaid" neu ond defnyddio "Pobl Sgandinafaidd"? Mae Google yn dangos bod Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell genedlaethol yn defnyddio "Sgandinafiaid". Thaf 10:45, 19 Awst 2011 (UTC)Ateb
Smai. "Llychlynwyr" mae John Davies yn eu galw yn Hanes Cymru (tud 79 - 82) ond mae hefyd yn defnyddio: Northmyn. Mae o hefyd yn manylu ar y math o lychlynwr: Erbyn 840, yr oedd cymunedau o Norwyaid yn ynysoedd yr Alban... ac yna dywed: Gwladychodd y Daniaid ogledd a dwyrain Lloegr o 865 ymlaen.... ond Llychlynwyr yw'r term a ddefnyddia fwyaf aml.
Ceir erthygl ar y Llychlynwyr yn y Gwyddoniadur, lle mae'n son fod yr enw "Anglesea" yn tarddu o'r "Hen Norseg". Dywed hefyd, Yn 989 Talodd Maredydd ab Owain dreth o geiniog y pen i'r "Cenhedloedd Duon" (sef y Daniaid, mae'n debyg...).
Un dyfyniad arall o'r Gwyddoniadur, i gloi: Gellir ystyried mai cam olaf yr ymosodiad gan y Llychlynwyr ar Gymru oedd goresgyniadau'r Normaniaid, disgynyddion y Northmyn... Llywelyn2000 10:57, 19 Awst 2011 (UTC)Ateb
Wel, mae angen arnom wahaniaethu oherwydd nad yw en yn gallu cyfeirio at ddim ond un erthygl, sef yr un yma, o erthyglau lluosog. Felly, mae angen arnom eiriau sy'n cyfleu "Scandinavians" a "Norsemen". Dyma le nad yw termau Cymraeg safonol yn ddigon. Grrr. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:17, 20 Awst 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Llychlynwyr".