Sgwrs:Lochnagar - Cac Carn Mor

Sylw diweddaraf: 13 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Ambell sylw

Ambell sylw

golygu

Newidiais y disgrifiad o leoliad y copa i hyn: "Enw'r fam-fynydd ydy Lochnagar gyda'r brif gopa Cac Carn Beag wedi'i leoli hanner kilometr i'r gogledd o Cac Carn Mor." Y rheswm am hynny ydy mae Lochnagar ydy enw'r mynydd cyfan: copaon sy'n rhan o'r mynydd hwnnw ydy'r ddau Cac. Am ryw reswm, fel y nododd PoriusI o'r blaen, y garnedd beag ydy'r uchaf, o 5 m, ond Lochnagar ydy enw'r mynydd ei hun er hynny, nid 'Lochnagar - Cac Carn Beag' (h.y. Cac Carn Beag yw copa uchaf mynydd Lochnagar).

Hefyd, symudais y dolenni allanol i'r gwaelod: trefn wici. Anatiomaros 17:29, 23 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Rhestr o gopaon oedd fy mwriad; fel mae nhw'n cael eu rhestru gan y Rhestri Safonol. Mae rheiny ar gael yn hwylus. Beth yw dy ddiffiniad o "Fynydd"? A ble ellir cael rhestrau ohonyn nhw? Llywelyn2000 06:41, 24 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Llywelyn bach, "mynydd" ydy fy niffiniad o "fynydd". Dwi'n siwr dydwi ddim yr unig un sy'n meddwl hynny. Ceir rhestrau safonol o fynyddoedd yr Alban yng nghyfrolau adnabyddus y Scottish Mountaineering Club (a sawl man arall). Does gen i mo'r gyfrol ar gyfer y rhan yma o'r Alban ('Central Highlands' a 'Northern Highlands' yn unig sy ar fy silffoedd), ond mae gen i gopi o'r enwog Munro's Tables (sy'n cynnwys rhestrau'r Corbetts a'r Donalds hefyd). Gwahanieithir rhwng mynydd a "top" munro. Yn Adran 7 nodir pum top munro sy'n rhan o fynydd Lochnagar, yn cynnwys y man uchaf wrth gwrs. Mynydd ydy mynydd. Be sy'n anodd fan'na?
Does gen i ddim byd yn erbyn cael y copaon (piti fod yr enw hwnnw'n llai na chwbl eglur ei ystyr - mae gwahaniaeth rhwng "munro mountain" a "munro top") ond mi rydwi'n bendant yn erbyn cael erthyglau ar gyfer prif gopa a 4 is-gopa mynydd Lochnagar heb gael erthygl am y mynydd ei hun, sef Lochnagar. Mae'r wici Saesneg yn ailgyfeirio Cac Carn Beag, pwynt uchaf Lochnagar at Lochnagar. Mae hynny'n gall. Anatiomaros 19:09, 26 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Gan fod y cwbwl mor syml i ti, mi adawaf y gwaith o gyfuno'r pegynnau a restrir o dan y fam-fynydd - i ti. Llywelyn2000 23:02, 26 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Lochnagar - Cac Carn Mor".