Sgwrs:Maes awyr
Sylw diweddaraf: 11 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Meysydd awyr Cymru
Meysydd awyr Cymru
golyguMae'r gwaith ar y map a'r rhestr yn fendigedig, ond gan fod hon yn erthygl ar y maes awyr fel endid - beth ydy o, hanes ei ddatblygiad, sut mae'n gweithio, ayyb - dwi'n meddwl dylem ni symud y deunydd am feysydd awyr Cymru i dudalen newydd (e.e. 'Rhestr o feysydd awyr Cymru' neu 'Meysydd awyr Cymru'), gyda dolen yma. Gan fod Llywelyn ac eraill wedi bod yn cyfrannu i'r rhan honno o'r erthygl hoffwn gael cydsyniad i wneud hynny, rhag ofn i mi sathru ar deimladau pobl. Gobeithio does dim gwrthwynebiad. Anatiomaros (sgwrs) 23:00, 20 Mehefin 2013 (UTC)