Sgwrs:Mari I, brenhines Lloegr
Sylw diweddaraf: 18 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros
Dwi'n eitha siwr mai Mari Tudur oedd hi, nid Mair Tudur...
- Sorry to reply in English. These names are often a problem for me, as there seems to be more than one Welsh equivalent for some English names, Mary being a good example. How can we decide whether Mair or Mari is more appropriate? Deb 22:01, 7 Maw 2005 (UTC)
- Dyna'r broblem gyda chyfieithu enway pobol ac hefyd enwau lleoedd. Fy hunan dw i'n credu y dylid cadw at fersiwn yr iath wreiddiol oni bai bod yna ddefnydd o gyfieithiad Cymraeg ar gael yn hanesyddol. Er engraifft mai pawb yn derbyn Louise XIV o Ffrainc ac ddim yn meddwl am ei gyfieithu i Lewis yn saesneg neu Lewys yn Gymraeg. Byddai cyfieithu Dafydd ap Gwilym i David son of William yn gwbwl wallgo ac yn y blaen. Yn fy marn i dylid defnyddio fersiwn cyfieithiedig os oes yna draddodiad o'i ddefnyddio yn GYmraeg, fel arall cadw at y fersiwn yn yr iaith wreiddiol. Dyfrig
- Dwi'n cytuno bod popeth yn dibynnu a oes yna draddodiad o ddefnyddio cyfeithiad yn y Gymraeg neu beidio. Ond yn aml iawn mae yna draddodiad, a dylwn ni chwilio amdano cyn penderfynu peidio â chyfieithu. Mae digon o gyhoeddiadau ar hanes y Tuduriaid yng Nghymru. Mae John Davies (Hanes Cymru) yn defnyddio Mari ar ei chyfer hi, a dwi'n credu taw hyn yw'r defnydd cyffredin heddiw. Yn sicr, Mari oedd y ffurf a ddefnyddid yng Nghymru yn ystod ei hoes. Dwi wedi symud yr erthygl (a chyfeiriadau eraill) i Mari I o Loegr. Yr un peth gyda Mari II. Daffy 12:31, 23 Awst 2006 (UTC)
MARI yw'r ffurf safonol yn Gymraeg - dyna a ddefnyddir yn wastad ym mhob llyfr hanes amdani, er mai Mair yw'r ffurf Gymraeg arferol am Mary, wrth gwrs.--Anatiomaros 14:39, 23 Awst 2006 (UTC)