Mari I, brenhines Lloegr

brenhines Lloegr

Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 151617 Tachwedd 1558) yn Frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558.[1][2] Hi oedd unig ferch Harri VIII, brenin Lloegr, a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon i fod yn oedolyn. Yn yr 17g bathwyd yr enw Mari Waedlyd i'w disgrifio, gan iddi ganiatáu lladd cannoedd o Brotestaniaid.[3]

Mari I, brenhines Lloegr
Ganwyd18 Chwefror 1516 Edit this on Wikidata
Palas Placentia Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 1558 Edit this on Wikidata
Palas Sant Iago Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, Brenhines Gydweddog Sbaenaidd, teyrn Iwerddon Edit this on Wikidata
TadHarri VIII Edit this on Wikidata
MamCatrin o Aragón Edit this on Wikidata
PriodFelipe II, brenin Sbaen Edit this on Wikidata
PerthnasauCarlos, Tywysog Asturias, Ferrando II, Isabel I, brenhines Castilla, Harri VII, Elisabeth o Efrog, Siarl V, Felipe II, brenin Sbaen Edit this on Wikidata
Llinachtuduriaid Edit this on Wikidata
llofnod

Ei hanner brawd, Edward VI, Edward VI (mab Henry VIII a Jane Seymour) olynydd Harri, a hynny yn 1647. Pan y deallodd na fyddai'n byw yn hir, oherwydd afiechyd, ceisiodd sicrhau na fyddai Mari yn ei olynu ar yr orsedd; gwnaeth hyn oherwydd fod ganddynt grefydd wahanol, ac felly, gor-gyfnither, yr Arglwyddes Jane Grey a orseddwyd. Casglodd Mari fyddin yn Nwyrain Anglia a llwyddodd i ddiorseddu Jane Grey, a thorrwyd ei phen. Yn 1553 coronwyd Mari'n frenhines.

Ar ôl ennill y goron yn 1553 ailsefydlodd Mari Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis yr esgob Richard Davies (1501 – 7 Tachwedd 1581). Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru: Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd.

Priododd Mari Felipe II, brenin Sbaen, ar y 25 Gorffennaf 1554 ond roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr. Pan ddaeth e'n frenin Sbaen yn 1556 gwnaed hi'n frenhines gydweddog Habsburg Sbaen.

Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.

Llwydlo a Chymru golygu

Yn 1525 danfonwyd hi i'r Gororau i fyw, er mwyn iddi dderbyn addysg drwy drefniant Cyngor Cymru a'r Gororau.[4] Roedd ganddi lys ei hun o fewn muriau Castell Llwydlo a galwyd hi'n answyddogol yn 'Dywysoges Cymru' gan rai er nad oedd, mewn gwirionedd.[5] Bu yno am dair blynedd.[6]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Weir, t. 160)
  2. Waller, t. 16; Whitelock, t. 9
  3. Waller, t. 115
  4. Porter, tt. 38–39; Whitelock, tt. 32–33
  5. Waller, p. 23
  6. Loades, pp. 41–42, 45
Davies, John. Hanes Cymru (Llundain: Penguin, 1990)
Rhagflaenydd:
Edward VI
Brenhines Lloegr
19 Gorffennaf 155317 Tachwedd 1558
Olynydd:
Elisabeth I