Sgwrs:Moelfre
Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Moelfre, pentref yng Nghonwy
Moelfre, pentref yng Nghonwy
golyguBle yn union mae'r pentref hwn? Dwi'n byw yn y sir ac yn ei nabod yn dda ers blynyddoedd ond dydwi erioed wedi clywed am y lle. Rhaid ei fod yn un o'r "pentrefi dau dŷ" hynny sy ddim ar y map?
- Efallai bod y lle'n bentrefan yn hytrach na'n bentref? https://maps.google.co.uk/maps?q=Moelfre,+Conwy --Cymrodor (sgwrs) 20:22, 14 Ionawr 2014 (UTC)
- Diolch am y ddolen. 'Sdim rhyfedd doeddwn i heb glywed amdano - dydy o ddim ar y map OS Landranger 1:50,000 hyd yn oed, heb sôn am fy atlas ffyrdd! Yr enwau ar y map OS yn y lle ar fap Google ydy Gwreiddyn (rhyw 3 o dai ar wasgar). Ond ceir bryn Moelfre Isaf gerllaw; ai dyna sy'n cyfrifo am 'Moelfre' ar y map Google, tybed? (Mae'n enw cyffredin ar fryniau, fel y gwyddost mae'n siwr - ceir o leia un bryn Moelfre arall yn sir Conwy hefyd.) Anatiomaros (sgwrs) 21:24, 14 Ionawr 2014 (UTC)
Hefyd, er dydy o ddim o bwys mawr efallai, yr arfer gyda thudalennau gwahaniaethu ydy cael nhw dan yr enw ei hun - Moelfre yn yr achos yma - pan nad oes erthygl dan yr enw (symudwyd Moelfre - a dwi'n cytuno gyda hynny yn yr achos yma). Defnyddir "Lle/peth (gwahaniaethu)" mewn achosion lle mae un lle neu beth amlwg iawn, e.e. dinas Paris, a llefydd/pethau eraill o'r un enw hefyd (gweler Paris (gwahaniaethu)). Dwi'n awgrymu dileu Moelfre dros dro er mwyn symud hyn i'r dudalen (newydd) Moelfre. Anatiomaros (sgwrs) 23:52, 10 Ionawr 2014 (UTC)
- O'n i'n meddwl buasai tudalen Moelfre ei hun yn gwell na Moelfre (gwahaniaethu). Ceisiais dilyn esiampl arall ond elle mod i wedi camddeall neu pigo enghraifft ddrwg. Diolch am fy roi ar y cledrau cywir.--Cymrodor (sgwrs) 20:22, 14 Ionawr 2014 (UTC)
- Dim problem o gwbl, Cymrodor. Mae angen tudalen o ganllawiau yma am bethau fel hyn. Rhaid ystyried yn ofalus cyn symud erthygl er mwyn gwahaniaethu - y rheol gyffredinol ydy bod rhywle/rhywbeth mawr ac "amlwg" yn cael y flaenoriaeth - e.e. Taliesin am mai "Taliesin yw Taliesin" fel petai, er bod sawl enghraifft arall o'r enw hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 21:29, 14 Ionawr 2014 (UTC)