Sgwrs:Moment

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Diolch am dy waith, Glenn. Yn anffodus, nid berfenwau mo "tynnu" na "gwthio" yn y cyd-destun hwn. Maent yn agosach at fod yn ansoddeiriau yma. Yr hyn y ceiswyd ei gyfleu gan Ysgol Dinas Bran yw amlygiad y grymoedd; hynny yw; y modd y maent yn gweithio. Byddai cyfieithiad Saesneg yn debyg i: "If we can describe a force as pushing or pulling..." felly; "Os medrwn ddisgrifio grymoedd yn dynnu neu'n wthio" sy'n gywir yma. Efallai y byddai aralleiriad sy'n llai amwys yn fwy priodol. Eisingrug 12:33, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Wedi newid mymryn ar y geiriad - gobeithio bod y mynegiant yn llai amwys bellach! Eisingrug 12:36, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Diolch. Mae teitl yr erthygl yn swnio'n debycach i nofel dditectif nag i uned safonol, rhyngwladol, gwyddonol. Llywelyn2000 18:52, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Ydy, mae'n swnio'n od ar y naw, ond os ydy gwerslyfrau ffiseg Cymraeg yn ei ddefnyddio (a derbyn mai dyna yw'r ffynhonnell) does gennym ni ddim dewis ond eu dilyn, mae'n debyg. Pwynt arall: dydy "Yn America, dim ond y gair "trorym" a ddefnyddir" ddim yn gwneud synnwyr oni bai fod yr Iancs wedi rhoi'r gorau i siarad Saesneg ac wedi mabwysiadu Iaith y Nefoedd yn ei lle... Anatiomaros 22:32, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Moment".