Sgwrs:Oswy

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Anatiomaros, enaid fawr, henffych. Diolch i ti am dy gywiriadau craff arferol. Mae un yn fy nwys-bigo, braidd, sef "East Anglia". Os ydym am ei gyfieithu, yna be nesa: cyfieithu Northumbria a Wessex ayb? Cadw at East Anglia mae John Bwlchllan yn Hanes Cymru, ond efallai fy mod wedi methu rhywbeth? Llywelyn2000 22:33, 14 Mehefin 2009 (UTC)Ateb

Hawddamor, Llywelyn! Rwyt ti'n iawn efallai. Dwi'n tueddu i feddwl fy hun fod unrhyw 'East' neu 'West' ayyb yn derm i'w gyfieithu, os ydyw'n air ar wahân (wrth gwrs baswm i ddim yn awgrymu cyfieithu 'Wessex' a ballu). Dim o bwys mawr i mi yn yr achos yma, gan fod yr enw mor gyfarwydd, ond ar y llaw arall mae gennym 'Gorllewin Virginia' ayyb, felly pam lai? Diffyg canllawiau eto. Newydd ffeindio hyn - "Prifysgol Dwyrain Anglia" ar wefan y BBC... Anatiomaros 22:47, 14 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
W! Dwi'n siwr i mi ddweud "enaid fawr"! Enaid mawr, wrth gwrs! Parthed East Anglia, efallai fod defnyddio iaith y goresgynwr ei hun yn ei gadw ymhellach i ffwrdd oddi wrthym! Mi arhosai chwap i weld a oes barn gan y lleill. Mae Dwyrain Anglia hefyd cystal; mater o arferiad, yn te? Llywelyn2000 05:05, 15 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Anodd dweud; y peth pwysicaf yw bod yn gyson. Rwy'n meddwl y buaswn i'n dewis "East Anglia" i ddilyn Hanes Cymru. Rhion 06:17, 15 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Dydwi ddim yn mynd i golli cwsg drosto, ond dwi'n dal i feddwl fod 'Dwyrain Anglia' yn Gymreigiad derbyniol. Pob parch i John Davies, ond ar-lein (cofier chwilio am 'Nwyrain Anglia' a 'Ddwyrain Anglia' hefyd), dwi wedi cael hyd i enghreifftiau gan gyrff fel y BBC (dyma enghraifft arall), Llywodraeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Ofcom, yr RSPB, y Gomisiwn Goedwigaeth, Cyngor Wrecsam, a'r Western Mail (colofnydd amaeth Cymraeg), yn ogystal a sawl blog, yn cynnwys Cymry sy'n myfyrio ym 'Mhrifysgol Dwyrain Anglia'. Mater o arfer, efallai, ond yn sicr mae'r enw yn bod ac yn cael ei ddefnyddio. Ac os ydym am ddefnyddio 'East Anglia' beth am 'West Midlands', 'South Yorkshire', 'East Sussex' ayyb? Mae angen bod yn gyson, fel mae Rhion yn nodi. Anatiomaros 16:34, 15 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Oswy".