Sgwrs:Perth, Gorllewin Awstralia
Sut mae? Beth wyt ti'n ei feddwl efo'r linell yma: Perth yw un o'r dinasoedd mwyaf ynysedig yn y byd. Dwi 'di trio cywiro chydig i ti yma ac acw. Llywelyn2000 23:15, 3 Ionawr 2009 (UTC)
- Diolch newid y gair Rhys, ond tydw i fawr callach! beth ydy Perth yw un o'r dinasoedd mwyaf arwahanedig yn y byd. ? Tybed wyt ti'n golygu "mwyaf diarffordd" ynteu "mwayf gwahanol" neu "cwbwl unigryw"? Diolch. Llywelyn2000 22:52, 13 Mai 2009 (UTC)
- Sori- o ni heb gweld eich cwestiwn o Ionawr. Perth yw'r ddinas fwyaf isolated yn y byd! Mae'r Môr India i'r Gorllewin ac anialwch mawr i'r Dwyrain! Roeddwn ni'n meddwl bod isolated yn cyfieithu i ynysedig ond y gair cywir yw arwahanedig neu arunig. Dyma'r frawddeg o'r wikipedia Saesneg:
- Perth is one of the most isolated metropolitan areas on Earth. The nearest city to Perth with a population over 1 million is Adelaide in South Australia, which is 2,104 kilometres (1,307 mi) away. Perth is geographically closer to East Timor, Singapore and Jakarta, Indonesia, than it is to Sydney, Melbourne, and Brisbane. The antipode of Hamilton, Bermuda is located 45 kilometres offshore from Point Peron in Perth's southern suburbs.
- Gobeithio mae hyn yn eglurhad gliriach! Rhys Thomas 23:34, 13 Mai 2009 (UTC)
- Isolated! Reit. Rwyt ti'n iawn, mae'r ddau air mewn geiriadur, ond mi fetiai di bunt mai'r golygyd wnaeth eu creu nhw, ac o'r herwydd does neb yn deall (o'u darllen) mai isolated mae nhw fod i feddwl! Weithiau, mae defnydio dau air mae'r darllenydd yn ei wybod yn well, yn fwy naturiol. Ga i awgrymu rhywbeth fel "mwyaf anghysbell ac anhygyrch yn y byd..." Diolch i ti Rhys. Llywelyn2000 05:23, 14 Mai 2009 (UTC)
- Fi newidiodd ynysedig i arwahanedig, ond ti'n iawn, tydi'r ddau ddim air cweit yn glir nac mewn defnydd pob dydd. Efallai bod diarffordd yn well. Wedi dweud hynny, tydi'r ffaith nad oes dinas â phoblogaeth o dros filiwn yn agos iddi ddim yn golygu bod hi'n ddarffordd mewn difri! Ond mae'r ffaith bod dinas fel Jakarta yn nes iddi na sawl un arall yn Awstralia yn trivia digon difyr yn fy marn i.--Ben Bore 07:44, 14 Mai 2009 (UTC)
- He he! Nac ydy! Diolch. Llywelyn2000 04:09, 15 Mai 2009 (UTC)