Sgwrs:Planed

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Flin i fod yn boen ond dyw'r frawddeg "wedi clirio'r gofod yn ei orbit." ddim yn gwneud synnwyr i fi. Oes esboniad gwell am hyn? :) Glanhawr 04:04, 1 Mai 2009 (UTC)Ateb

Bore da, Glanhawr. Duw annwyl, mi fuost wrthi drwy'r nos gyda'r Domestos cryfaf a welais i dan haul!!! Yn cadw'r llwyd o'r gwydyr lliw.... Rwan ta, dyma'r Saesneg: and has cleared its neighbouring region of planetesimals. Hynny yw (os deallaf yn iawn) mae gronynau llwch sy'n teithio o amgylch y planedau yn taro'u gilydd ac yn ymuno a'i gilydd fel bod y clwstwr yn araf dyfu. O dipyn i beth fe a'n fwy, hyd nes ei fod yn cyrraedd mas y gall ei ddisgyrchiant atynu (drwy ddisgyrchiant) gyrff tebyg. Mae llawer iawn o gyrff fel hyn (ac yn eu mysg ser gwib, comets). Nid ydy planed yn gwneud hyn, mae'r holl lwch a chyrff tebyg wedi ei hwfro ers blynyddoedd, wedi ei glirio o orbid y blaned. Mae'r diffiniad hwn, felly, yn rhoi ryw fath o statws i blaned er mwyn ei wahaniaeth oddi wrth 'planetesimals' llai.
Mae'r diffiniad hwn (rhif 3) yn un dadleuol iawn a llawer yn anghytuno ag e. Mae cyfarfod o [IAU] (dyna gyd-ddigwyddiad!!!) eleni, ac efallai y gwelwn hwn yn cael ei ddileu beth bynnag! Efallai, tan hynny y byddai rhywbeth fel "wedi tyfu mor fawr fel ei fod wedi gorffen y gwaith o glirio neu atynu'r mân lwch, y cerrig, y gwib a'r cyrff eraill sydd yn ei orbit." yn well? Llywelyn2000 05:25, 1 Mai 2009 (UTC)Ateb
Mae hynny'n eglurach o lawer; roeddwn i'n methu deall y diffiniad arall o gwbl! Dwi wedi roi o yn y testun. Diolch i'r ddau ohonoch, Anatiomaros 23:33, 1 Mai 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Planed".