Sgwrs:Popty microdon

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Mae offeryn yn cael ei gysylltu (yn ormodol efallai) gyda cherddoriaeth. Instrument yn saesneg. Dw i'n cytuno fod cyfarpar yn nes ati. Ysgol Rhiwabon 15:23, 5 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

I was under the impression (not sure from where) that "offeryn" can mean either a tool (with plural "offer") or an instrument (with plural "offerynnau"). But that might be rubbish. Luke 15:27, 5 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Mae'r ddwy ystyr yn iawn, a dyna sy'n creu'r dryswch. Y broblem efo'r gair 'cyfarpar' ydy bod bron neb yn ei ddefnyddio. Does dim byd o'i le efo'r gair ei hun, ond "teclyn" ydy'r gair ar lafar yn y Gogledd am offeryn fel hyn. O ran hynny, mae'r termau 'offer cegin' neu 'offer coginio' yn llawer mwy tebyg o gael eu defnyddio na 'cyfarpar...'. Am "tools" yn gyffredinol, 'offer' piau hi, dwi'n meddwl (ond mae 'cyfarpar' yn air da am "equipment" yn gyffredinol). Mater o ddewis. Anatiomaros 16:07, 5 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Offer yw'r gair lluosog mae'r termiadur a geiriadur y BBC yn ei gynnig am "appliances", faswn i'n dwued mai offerynnau yw instuments. Dwi'n credu fod offer yn cael ei ddefnyddio'n fwy cyffredin yng nghyd-destun cegin felly mi fasi'n well gen i gael newid yn ôl i hwn yr roes i yn y lle cyntaf. Thaf 16:33, 5 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Ia, "offer" yw lluosog "offeryn" yn yr ystyr "tools" ac "offerynnau" o'r un gair yn yr ystyr "instruments".... Anatiomaros 17:04, 5 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Ewch ati. Luke 16:42, 5 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Dydy o ddim yn fater o bwys tragwyddol ac mae'n debyg fod arfer unigolion yn amrywio. Ond mae 'offer' yn bendant yn golygu "tools" ac yn cael ei ddefnyddio felly yn aml. "Offer" oedd gan y chwarelwyr at eu gwaith, ac mae archaeolegwyr a haneswyr yn sôn am "offer" yn yr ystyr "tools", e.e. John Davies: "Darganfuwyd offer trigolion Mesolithig Cymru..." ond "cyfarpar" ganddo yn yr ystyr "equipment": "Cyfarpar cain yn ymwneud â marchogaeth yw cyfran helaeth ohonynt...". Mae'r term "cyfarpar" yn gallu cynnwys offer a phob math o bethau eraill. 'Mond allan o ddiddordeb! Anatiomaros 17:01, 5 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Popty microdon".