Sgwrs:Reici

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Enw'r erthygl

Adiwnio? golygu

Glenn. Mae'n erthygl ddidorol. Parthed: ac adiwniodd bobl i Reici, a'r clinig hwn yr oedd a gyfeiriwyd. Beth ydy "adiwnio"?A thydw i ddim yn deall cymal olaf y frawddeg. Diolch eto, Llywelyn2000 20:29, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Diolch. Cymreigiais i'r gair "attune" i "adiwnio" ac "attunement" i "adiwniad", ond efallai awgrymiadau gwell gen ti? "... and it to was this clinic that she was refered" yw'r Saesneg, ond dwi'n siŵr dwi'n lost in translation gyda fe! Efallai mae "ac i'r clinig hwn cafodd hi ei chyfeirio ato" yn well. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:10, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Sorri, newydd weld hwn! Ydy, mae dy gynnig yn gret. "ac i'r clinic hwn y cafodd hi ei chyfeirio." Does dim angen yr "ato" ar y diwedd - arddodiad ar ddiwedd brawddeg. Llywelyn2000 05:52, 15 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Enw'r erthygl golygu

Dwi wedi gosod enw'r erthygl yn "Reici", ond y gair gwreiddiol yw "Reiki." Jyst gofyn - ddylwn gadw at ddefnyddio "Reici" gan fod "ki" yn swnio fel "ci" yn y Gymraeg, ond gall fod yn drysu wrth ddarllen "Reici" fel gair ac wedyn "Usui Reiki Ryōhō Gakkai" fel brawddeg/enw cymdeithas? Neu ydw i'n darllen i mewn i'r peth gormod!? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:23, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Ynbersonol, mae'n well gen i Reiki, gan ei fod yn dangos mai gair benthyg amlwg ydy o. Dim ond symbol ydy "k" o sŵn arbennig ac roedd yn dderbyniol yn y Gymraeg tan yn lled ddiweddar. Mae pob iaith arall ar y rhestr IW yn defnyddio K yn hytrach nag c.
Pwynt arall, Glenn, os oes dewis rhwng Cymraeg wedi'i gyfieithu air-am-air neu Gymraeg syml, naturiol - yna dos am yr ail. Weithiau mae dau air yn well nag un yn hyn o beth!
Yn ola, dydw i ddim yn hapus efo'r gair Cymraeg am 'prctisioner' rwyt ti'n ei ddefnyddio, sef 'ymarferwr' ayb. Wyt ti wedi ystyried "therapydd"? Er mai gair benthyg ydy o, mae o wedi'i dderbyn ac mae pawb yn gwybod amdano. Llywelyn2000 05:48, 15 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Mae'n lan iti - ti sy'n gwybod llawer mwy o'r iaith na fi, felly af i â dy gynnig di. Hmmm, oes llawer o wahaniaeth yn Gymraeg rhwng "ymarferwr/ydd" a "therapydd"? Oherwydd yn ystyr Reici, gallwch fod yn ymarferwr, ond nid yn therapydd. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:52, 15 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Oes; dyna pam 'doeddwn i ddim isio rhuthro i'w "cywiro". Ydy'r gwahaniaeth yn bwysig? H.y. ydy'r adegau yng ngwaith y "ymarferydd" pan NAD oes elfen o wella? Onid ydy gwaith masseus hefyd yn cynnwys therapi (seicolegol, ymlaciol...)?
Mi faset hefyd yn medru gofyn i'r gwrthwyneb: oes gennym ni hawl alw'r gwaith yn "ymarferydd" gan FOD elfen o wella / therapi seicolegol / ymlaciol ynddo? Llywelyn2000 02:11, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Iawn. Does dim problem gen i efo defnyddio'r "therapydd" yn lle "ymarferw/yr". Os wyt ti hefyd yn cytuno, mi af i (neu ei di) ati i'w newid :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 02:18, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Mi wna i'r gwaith. Efallai y byddai'n syniad i ti sgwennu pwt yn egluro fod gwaith yr ymarferwr ychydig bach yn wahanol i therapydd - yn yr erthygl. Be wyt ti'n ei feddwl? Llywelyn2000 02:31, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Wedi'i wneud! Llywelyn2000 02:35, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Diolch. Dwi ddim yn siŵr am waith therapydd a dweud y gwir. Iawn, mae ymarferwr yn defnyddio Reici ar rywun arall, ond mae therapydd yn ei ddefnyddio yn broffesiynol, h.y., ar y choedd, efo yswiriant ayyb. Efallai gallaf ychwanegu cyfeiriad at y sôn cyntaf o "therapydd" ac egluro yno - ni fydd yn weledig yng nghynnwys yr erthygl ei hun, ond efo'r holl gyfeiriadau eraill. Beth wyt ti'n feddwl am hynny? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 02:40, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Syniad da. Diolch. Llywelyn2000 02:43, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Gweler cyfeiriad cyfredol #47 - ydy hynny'n oce? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 02:54, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Rhif 47? Dydw i ddim yn deall. Braidd yn hwyr, efallai! Llywelyn2000 04:06, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Reit ar waelod y tudalen, o dan y cyfeiriadau. Rhif 47 yw'r nodyn :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 04:13, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Ah! Ro'n i o fewn y dudalen olygu, felly doedd dim rhif! Ydy, gret, dim probs. Un syniad arall ydy defnyddio "gweinydd" hy rhywun sy'n gweinyddu Reicci pan NAd oes elfen o therapi. "Mae lan i ti"! Llywelyn2000 04:24, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Dwi newydd newid enw'r erthygl yn ôl i Reiki (gan adfer y ddolen ailgyfeirio), oherwydd,

  1. Mae gair hollol estron yw e, felly mi ddylem ddefnyddio'r gair gwreiddiol,
  2. Ar ôl darllen ambutu'r Japaneg, gall un gair fod â sawl ystyr (gwelir hyn gyda'r gair Reiki ei hun),
  3. Mae bob un wiki arall yn defnyddio'r un gair (ac eithrio rhai). -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:25, 2 Tachwedd 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Reici".