Sgwrs:Reticwlwm endoplasmig
Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Llygadebrill
Dwi'n meddwl y bysai hwn yn edrych yn well gan ddefnyddio "reticwlwm endoplasmig" pob tro yn lle o "RE". Mae 'na rhywbeth an-Nghymraeg (i fy nghlust i bethbynnag) am dalfyrru enwau fel hyn. Ydy "RE" yna dim ond am fod "ER" yn yr erthygl Saesneg, neu oes yna unrhyw ffynhonnell yn defnyddio "RE" yn y Gymraeg.--Llygad Ebrill 18:40, 15 Mawrth 2007 (UTC)
- Er wnes i gymryd cyfeiriadau a'r rhan ynglŷn a hanes RE o'r wikipedia Saesneg, mae'r rhan fwyaf o'r gwybodaeth yn yr erthygl yn dod o fy nodiadau Bioleg lefel A (sydd heb unrhyw gyfeiriadau) a llyfr byr ar Fioleg Moleciwlaidd (sy'n ffynhonnell trydyddol ac ddim yn nodi cyfeiriadau chwaith), ac roedden ni'n defnyddio'r byrrhad "RE" yn ystod gwersi Bioleg yn aml. Mae gennyf uned ar organynnau isgellog sy'n defnyddio "RE", ond 'sgen i ddim ffynhonnell CBAC neu unrhyw faes llafur sy'n defnyddio'r byrrhad oherwydd fod y deunydd cwrs wedi ei ysgrifennu gan ein ysgol yn hytrach na CBAC. Efallai byddai'n syniad dileu'r cysylltiad "RE" i'r erthygl hon, ond dwi'n credu y dylwn ni gadw'r defnyddiad o "RE", gan ei fod yn gwneud yr erthygl yn fwy cryno ac yn haws i ddarllen. Tomos ANTIGUA Tomos 23:46, 15 Mawrth 2007 (UTC)
Dwi ddim yn gwybod llawer am y pwnc ei hun ond hyd y gwelaf does dim harm mewn cadw'r ail-gyfeirio RE am rwan. Os oes 'na bethau eraill gyda'r un talfyriad bydd yn hawdd gwneud tudalen gwahaniaethu ohono. Anatiomaros 23:54, 15 Mawrth 2007 (UTC) (ON Diolch am y map yn Hecataeus - gwaith hynod o gyflym!)
- Iawn, cadw RE. Dwi wedi newid gwyneb>ochr, wyneb yw'r sillafiad cywir ond mae'r gair ochr yn neud mwy o synnwyr rhywsut. Gyda llaw - mae'n dda iawn gweld erthygl cyn hired ar bwnc gwyddonol yma!--Llygad Ebrill 18:13, 16 Mawrth 2007 (UTC)