Sgwrs:Rhestr glofeydd gogledd-ddwyrain Cymru
Sylw diweddaraf: 16 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Teitl cywir?
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Teitl cywir?
golyguGlofeydd yn yr hen Sir Ddinbych yw'r rhain. Dwi'n meddwl y buasai'n well symud hyn i 'Rhestr glofeydd gogledd-ddwyrain Cymru' neu rywbeth tebyg (cyfeirir gan amlaf at 'faes glo gogledd-ddwyrain Cymru' mewn llyfrau hanes hefyd). Sylwadau? Anatiomaros 18:12, 11 Mawrth 2008 (UTC)
- Ddim yn siwr! Edrychwch ar y testyn newydd. Beth 'dych chi'n feddwl??? -- Maelor 20:45, 11 Mawrth 2008 (UTC)
- Dwi'n dal i feddwl fod y teitl presennol yn gamarweiniol a hefyd yn groes i'n polisi o ddefnyddio'r siroedd presennol fel rheol yn hytrach na'r hen siroedd. Roedd y rhan fwyaf o'r pyllau yn gorwedd yn y sir Wrecsam bresennol. Mae rhai llyfrau/awduron yn cyfeirio at 'Maes glo Gogledd Cymru' yn lle '...gogledd-ddwyrain...', ond mae hynny'n gamarweiniol braidd hefyd am fod rhai pyllau bach ar Ynys Môn hefyd ond dydyn' nhw ddim yn yr un maes glo (yn ôl y daearegwyr, o leiaf) â phyllau'r gogledd-ddwyrain (!). Faint o byllau sydd 'na yn Swydd Amwythig? Wyt ti'n gwybod? Dwi'n meddwl bydd yn iawn eu cynnwys yn yr erthygl dan yr enw arall, oni bai bod rhai pobl yn cyfeirio ar 'Maes glo Swydd Amwythig'? Does dim rhaid newid pethau ar unwaith. Efallai fod gan rywun arall awgrymiadau hefyd. (Syniad da oedd y rhestr, gyda llaw). Anatiomaros 21:05, 11 Mawrth 2008 (UTC)