Sgwrs:Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Daffy in topic Dyddiad ei ordeinio?

Dyddiad ei ordeinio? golygu

Pryd gafodd ei ordeinio? Yn ôl Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, 1883. Yn ôl llyfr D. Myrddin Lloyd, 1884. Pwy sy'n gywir? Daffy 21:40, 5 Medi 2006 (UTC)Ateb

Cwestiwn da. Y tro yma y Cydymaith piau hi, mae'n debyg. Yn ôl T. Gwynn Jones yn ei Gofiant iddo, cafodd Emrys ei ordeinio yng Nghymdeithasfa'r Wyddgrug, ym Mehefin 1883 (yn anffodus nid yw T. Gwynn Jones yn rhoi'r union ddyddiad). Ceir hanes yr helynt o'i ordeinio'n fanwl iawn yn y Cofiant (pennod VI a IX); mae'r cyfeiriad rhy foel o lawer at ei ordeinio, o'r diwedd, i'w gael ar dud. 152. Anatiomaros 22:06, 5 Medi 2006 (UTC)Ateb

Diolch! Dwi wedi ychwanegu'r manylion. Daffy 22:40, 5 Medi 2006 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)".