Sgwrs:Robin van Persie

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Blogdroed

Credaf fod "gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf" yn dderbyniol gan ei fod yn cael ei ddefnyddio mor aml ar lafar ac yn ysgrifenedig gan ohebwyr a sylwebwyr ar BBC Cymru ac S4C Blogdroed (sgwrs) 06:47, 18 Mehefin 2014 (UTC)Ateb

Cytunaf fod yr ymadrodd yn cael ei ddefnyddio'n fynych, ond, onid ydym yn anelu at gadw safonau ysgrifenedig sydd yn addas ar gyfer gwyddoniadur? Yn hynny o beth, awgrymaf nad ydym yn defnyddio idiomau Saesneg anffurfiol, anghywir, pan fo modd mynegi'r un peth yn ôl y modd Cymraeg priodol. Hefyd, hoffwn ddiolch i chi, gyda llaw, am eich gwaith: rydych wedi bod wrthi'n ddiwyd iawn ac mae'n braf gweld cymaint o gyfraniadau. Gobeithio eich bod chi'n mwynhau Cwpan y Byd!

Diolch! Ydw, dwi'n mwynhau!! Cytunaf fod angen cadw Cymraeg graenus, ond credaf fod sawl erthygl gyda gwallau iaith llawer gwaeth na'r defnydd o idiom sydd, efallai, erbyn hyn, yn ddigon derbyniol ;) Blogdroed (sgwrs) 10:56, 18 Mehefin 2014 (UTC)Ateb

Digon teg, digon teg ;) Edrych mlaen at weld heno a fydd yr Iseldiroedd yn ymdopi â'r pwysau o ddod yn sydyn iawn un o'r ffefrynau!

Nôl i'r dudalen "Robin van Persie".