Sgwrs:Ros Láir

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Alan012

Pam enwi'r erthygl yn "Ros Láir" yn lle "Rosslare"? Faswn i'n meddwl mai'r canlynol dylid bod y sustem i ddewis enwau erthyglau am leodd:

  • os mae enw Cymraeg adnabyddedig, defnyddiwn hwnnw
  • os does dim enw Cymraeg, defnyddiwn yr enw swyddogol lleol, felly yn Iwerddon:

Neu oes rheswm i ddewis ieithoedd celtaidd (amgen na'r Gymraeg) yn hytrach nag ieithoedd di-geltaidd, achos eu bod yn fwy debyg i'r Gymraeg? Alan 13:28, 26 Medi 2008 (UTC)Ateb

Wela i ddim pam lai. Dw i'n cofio trafodaeth tebyg am enwau llefydd yn Llydaw (er ni gytunwyd ar ddim - fel arfer!) . Er y dylem fod a pholisi mae'n debyg naill ffordd neu'r llall - (dw i'n bersonol o blaid defnyddio enwau Gwyddelig/Llydaweg), dw i ddim yn gweld ei fod yn broblem cyn belled a bod tudalen ail-gyferio o'r ddau enw a thra bod esboniad pob fersiwn ar ddechrau'r frawddeg gyntaf.--Ben Bore 15:46, 26 Medi 2008 (UTC)Ateb
Diolch. Dwi'n cytuno am y tudalennau ail-gyfeirio, ond serch hynny mae rhaid i bob dudalen fod ag un prif deitl, felly rhaid i ni gytuno ar ryw bolisi er mwyn sicrhau bod popeth yn gyson. Dwi'n teimlo bod pobl yma yn ffafrio ieithoedd lleiafrifol yn gyffredinol, nid yr ieithoedd celtaidd yn unig, e.e. Basgeg a Chatalaneg. Basai'n dda ysgrifennu'r "polisi" (neu ddisgrifiad o'r arfer sy'n bodoli, o leiaf) rhywle fel Wicipedia:Enwau llefydd. Iawn, dyma ddolen goch, wyt ti am ei glashau? :-) Alan 17:39, 26 Medi 2008 (UTC)Ateb

Ydy'r rhyngwicis yn cyfeirio i'r erthyglau iawn? golygu

Mae erthyglau ar wahan ar gyfer yr porthladd a'r pentref yn Saesneg (ac o leiaf yr Almaneg). Dw i'n meddwl dylai gyfeirio at erthyglau am y pentref.--Ben Bore 15:46, 26 Medi 2008 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Ros Láir".