Sgwrs:Siôn Aubrey Roberts

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Untitled


Untitled golygu

Anodd gen i gredu mai 1981 oedd ei flwyddyn geni. Golyga hyn mai dim ond 12 oed oedd o pan gafodd ei ddedfrydu i garchar ym 1993!

Pwynt da, nai' holi rhywn sy'n ei adnabod!--Ben Bore 09:11, 26 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
Yn ôl yr erthygl yma ar y BBC, roedd yn 21 oed pan gafodd ei garcharu, felly os ydi fy syms yn gywir, yna cafodd ei eni yn 1972. --Ben Bore 10:15, 5 Hydref 2007 (UTC)Ateb

Dylai bod cysyllt i Meibion Glyndŵr rhywle yn yr erthygl, on'd ydy? Mh96 14:17, 12 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Mae 'na rwan. Gellid ychwanegu llawer mwy am y cefndir a'r achos hefyd. Anatiomaros 17:14, 12 Mawrth 2008 (UTC)Ateb
Heb eisiau bod yn ddadleuol, ond oes modd ychwanegu ffynhonellau dibynadwy i'r erthygl hon. Mae ambell frawddeg fel "Roedd ymgais flaenorol i fframio'r actor adnabyddus Bryn Fôn a'i bartner Anna Williams, yr actor ac ysgrifennwr Mei Jones, a'r actor Dyfed Thomas yn aros yng nghof y cyhoedd." yn ymylu ar fod yn enllibus. Os oedd Heddlu Gogledd Cymru neu unrhyw un arall wedi ceisio fframio rhywun, mae'n well gwneud yn siwr fod y dystiolaeth ar gael i brofi hynny cyn ei gyhoeddi mewn gwyddoniadur fel hyn... Pwyll 19:42, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Dwi wedi aileirio'r darn am Bryn Fôn a'i wraig a Mei Jones a rhoi ffynhonnell. Rwyt ti'n iawn fod angen ffynhonnell am y ffaith fod nifer yng Nghymru yn meddwl fod y dystiolaeth yn ffug, h.y. fod pobl yn meddwl fod yr heddlu a Special Branch yn barod i chwarae castiau budr er mwyn cael "canlyniad" ar ôl methu dal neb am flynyddoedd. Dwi'n cofio'r adeg, ac mae'n wir. Dyna oedd barn nifer o bobl, a dim rhyfedd. Rhaid cofio fod yr "awdurdodau" wedi arestio tua dau gant o bobl ar un adeg ac wedi gorfod rhyddhau pob un ohonynt wedyn oherwydd diffyg tystiolaeth. Roedd hyn wedi creu awyrgylch o ofn a drwgdybiaeth. Y broblem ydy cael y ffynonellau. Mae'n syndod (neu ydy o?) cyn lleied sydd ar y we am hyn. Er fy mod wedi ailaeirio'r darn am Bryn Fôn, "fframio" oedd hynny, sef plannu tystiolaeth ffug a'i arestio. Mewn gwyddoniadur fodd bynnag mae angen cael dyfyniad o rywun yn deud hynny yn lle ei ddeud yn blaen, dyna'r broblem. Anatiomaros 21:54, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Siôn Aubrey Roberts".