Sgwrs:Socrates
Diolch, Dyfrig ac Anatiomaros, am eich cywiriadau. Gai gwestiynnu un neu ddau o fanion?
Pam newid: "ac i beidio ymweud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd yn ôl ei arfer" yn "ac i beidio ymweud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny". Mae'r gwreiddiol yn cyfleu gwybodaeth ychwanegol, h.y., roedd Socrates wedi bod yn ymweud â phendefigion ifanc. Os gweld y gwreiddiol yn amwys ydach chi, dwi' awgrymu "ac i beidio ymweud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer".
Diolch am ddiwygio'r paragraff olaf (roeddwn wedi blino neithiwr!), ond dwi'n gweld y fersiwn newydd mymryn yn ailadroddus, ac yn awgrymu'r calynol: "Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fei' cyhyddwyd o lygru'r ieuenctid, o ddyfeisio duwiau newydd, ac o anffyddiaeth, ac fe'i dedrfydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o hemloc." NB aros yn ei ddinas = "stay in his city", aros yn ddinas="remain a city" :-)