Sgwrs:Stumog
Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Bol/boly/bola
Bol/boly/bola Golygu
Anatiomaros. Gwelaf dy fod wedi ailgyfeirio 'Bol' at 'Stumog'. Dwi'n meddwl mai'r coluddiol (Mawr a Bach) ydy Bol, ac affliw o ddim i'w wneud â'r Stumog. Does gen i ddim amser heno i chwilio a chwalu am chwaneg o wybodaeth, ond mi dria i yn y dyddiau nesaf. Llywelyn2000
- Llywelyn, rwan rwyt ti'n sôn amdano dwi'n meddwl dy fod yn iawn. Golygu ar garlam oeddwn i, gweld ystumog yn ddolen goch ac wedyn meddwl "Ia, a bol hefyd"! Fel yn achos belly a stomach yn S. mae'n hawdd cymysgu rhwng y ddau ("Belly, stomach" sy gan y Geiriadur Mawr...). Croeso i ti ddadnweud fy smonach - gwell dileu bol yn gyntaf neu fydd o ddim yn cyfri fel erthygl newydd.
- ON Vive l'Algérie - tipyn o boen yn y bol i Loegr oedd styfnigrwydd a dawn Llwynogod yr Anialdir heno, mae'n siwr! Anatiomaros 23:34, 18 Mehefin 2010 (UTC)
- Diolch gyfaill. A rhoi Rwni (!) yn y bola crwyn! Llywelyn2000 22:43, 19 Mehefin 2010 (UTC)
- Syniad da - falla basa'n gwneud daioni iddo! Anatiomaros 22:52, 19 Mehefin 2010 (UTC)
- Diolch gyfaill. A rhoi Rwni (!) yn y bola crwyn! Llywelyn2000 22:43, 19 Mehefin 2010 (UTC)