Sgwrs:System nerfol

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Thaf

Tydy'r darnau canlynol ddim yn gwneud unrhyw synnwyr yn Gymraeg:

  • Cyfansoddir o niwronau
  • niwronau synhwyraidd
  • sy'n cyfansoddi'r system nerfol canolog
  • prosesu a dargludo'r arwyddion
  • sy'n rheoli canfyddiad organeb o'r byd
  • gyda phob organ yn orsad

ayb ayb ayb


Mae'r darnau canlynol mewn Cymraeg cwbwl wallus a chwbwl annerbyniol:

  • Yn anatomeg gros... ('Mewn anatomeg gros...' sy'n gywir)
  • yn darparu cefnogaeth ('Yn cefnogi' ddylid ei ddweud, yn syml, crynno, effeithiol a ... naturiol)
  • Yn y system nerfol ymylol, mae niwronau synhwyraidd a'r niwronau sy'n eu cysylltu i'r cord nerf, cord y cefn a'r ymennydd, sy'n cyfansoddi'r system nerfol canolog. (Nid yw'n frawddeg lawn / nac yn frawddeg o fath yn y byd)
  • Cyffansoddir y system nerfol o niwronau yn bennaf

ayb ayb ayb


Mae'r canlynol yn dermau gwallus:

  • niwronau modur (Nage yn ôl Geiriadur yr Academi. 'Niwron ysgogol' neu 'niwron motor' sy'n gywir.)
  • cord y cefn (!!!!)
  • system nerfol canolog (Nage, benywaidd ydy system, system Ganolog, felly; system nerfau ddwedwn i beth bynnag (ac mae yng Ngeiriadur yr Academi)


A dweud y gwir:

1. Byddai cywiro'r erthygl yn cymryd dwy waith cymaint o amser na fyddai ei ail sgwennu.

2. Cyfieithu geiriau a wnaed, a hynny'n wallus, yn gwbwl groes i deithi naturiol y Gymraeg.

3. Mi fyddwn i'n awgrymu i unrhyw berson a fynn ddarllen y llith hwn droi i'r Wiki Saesneg i ddarllen y gwreiddiol.

4. Mi rydan ni i gyd yn gwneud camgymeriadau, ond mae hyn yn gwbwl annerbynol.


Oes angen i ti fod cweit for galed!? Dim ond trio ydwi... Thaf 23:15, 6 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Phew! Be fedra'i ddweud? Dwi'n cytuno bod llawer o wallau yn y cyfieithu, ond mae pawb yn trio eu gorau hefyd. Anatiomaros 23:46, 6 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Nag oes. Fy ymddiheuriadau. Llywelyn2000 00:04, 7 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Wedi mynt trwodd a chywiro'r manion ti'n cyfeirio atyn nhw uchod. Sori os ydi rhai o'r termau yn anghywir, defnyddio'r termiadur ydwi fel rheol ond mae eu gwefan nhw'n pwdu ar y hyn o bryd felly dim ond hyn a hyn allai ddyfalu gyda chymorth geiriadur. Thaf 09:03, 7 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "System nerfol".