Sgwrs:TAG Safon Uwch

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Yr enw cywir am 'Lefel A' yw Safon Uwch. Mae rhywun yn angen newid e! 82.11.223.222

Dyna fantais mawr Wicipedia - mae pawb, yn eich cynnwys chi yn gallu ei newid! Os ydych chi'n gweld camgymeriad, byddwch yn ddewr a newidiwch e! Pwyll 18:16, 8 Medi 2010 (UTC)Ateb
Mae'r cyfranwr IP yn llygad ei le. Dwi wedi symud hyn i 'TAG Safon Uwch'. Diolch iddo/iddi am dynnu sylw at hyn. Anatiomaros 21:59, 8 Medi 2010 (UTC)Ateb
O'n i'n swnio braidd yn ymosodol? Wps. Doedd hynny ddim yn fwriadol, 'mond ceisio annog pobl i wneud newidiadau eu hunain yn hytrach na theimlo'n ddibynnol ar bobl eraill i wneud y newidiadau drostynt. Ymddiheuriadau os cafodd y sylw ei gamddehongli. Pwyll 18:12, 9 Medi 2010 (UTC)Ateb
Paid â phoeni! 'Mond dweud wrth y cyfranwr IP ei fod yn iawn oeddwn i. Ac rwyt ti'n iawn hefyd - caf yr argraff weithiau fod pobl yn meddwl ein bod yn gweithio yma ac felly mae i fyny i ni, y dyrnaid o gyfranwyr rheolaidd, wneud popeth! Arwydd o gyflwr ein diwylliant, efallai. Diwylliant gofyn neu dderbyn yn lle gwneud. Ewch ati'r tro nesa felly, gyfranydd dienw - gwyddoniadur pawb ydy Wicipedia! Anatiomaros 19:03, 9 Medi 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "TAG Safon Uwch".