Sgwrs:Trefnolyn

Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Llygadebrill

Ai 'trefnolyn' yw'r gair gorau i ddisgrifio rhif trefnol unigol? Mae 'trefnol' fel byrrhad o 'rhif trefnol' yn swnio bach yn od, ac dwi bron yn sicr fod 'trefnol' yn meddwl yr ansoddair 'ordinal' yn hytrach na'r enw 'ordinal', sy'n fyrrhad o 'ordinal number'. Tomos ANTIGUA Tomos 18:32, 22 Ebrill 2007 (UTC)Ateb

Dwi ddim yn gwybod llawer am y pwnc ond mae 'Trefnolyn' yn swnio'n well o lawer. Ffurf ansoddeiriol yw 'trefnol' ac mae'n edrych yn od ar ben ei hun (er y gellid ei ddefnyddio mewn rhai cyd-destunau, mae'n debyg, e.e. i gyfeirio at yr ansoddair ei hun). Anatiomaros 20:52, 22 Ebrill 2007 (UTC)Ateb

Wedi ei newid. Yndy mae trefnolyn yn swnio'n well yma. Deud y defnydd o'r gair ar Wicipedia:Canllawiau iaith oedd yn awgrymu i mi y gellid defnyddio'r gair fel enw. Diolch --Llygad Ebrill 09:18, 23 Ebrill 2007 (UTC)Ateb

Dwi wedi newid isomorffiad i isomorffedd oherwydd dyna sut mae isomorphism yn ymddangos yn ol y Termiadur Cymraeg.

Yn ogystal:

isomorphous = isomorffus
isomorphic = isomorffig
isomorph = isomorff - Tomos ANTIGUA Tomos 13:03, 23 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr am hynny, does gen i ddim termiadur ar hyn o bryd, ac mae'n dda safoni'r termau fel hyn. Ydy homomorffig/homomorffedd yna yn ogystal? Mae isomorffedd yn well yma am mai am y berthynas / cysyniad o fod yn isomorffig yr oeddwn yn son, ond hoffwn barhau i ddefnyddio'r geiriau isomorffiad a homomorffiad am y ffwythiannau. Wyt ti'n cytuno a'r defnydd canlynol o'r geiriau?
Mae dwy strwythur yn isomorffig os oes isomorffiad o un i'r llall. Isomorffedd yw'r ffenomen gyffredinol sy'n ymwneud ag isomorffiadau.
Diolch eto, --Llygad Ebrill 13:51, 23 Ebrill 2007 (UTC)Ateb

Mae hynny'n swnio'n iawn. Mae homomorffig/homomorffedd yn y Termiadur hefyd. Dwi newydd ddarganfod fersiwn ar-lein o'r Termiadur ar wefan Canolfan Bedwyr. - Tomos ANTIGUA Tomos 15:17, 23 Ebrill 2007 (UTC)Ateb

  • Trawsfeidraidd heb y cysylltnod yw transfinite yn ôl y Geiriadur Termau.
  • Mae Bruce (Geiriadur yr Academi) yn cyfieithu limiting fel terfannol. Felly rwi'n credu y byddai trefnolyn terfan yn well na trefnolyn terfannol am limit ordinal. Yn ramadegol mae'r enw terfan yn cael ei ddefnyddio fel ansoddair o'i osod ar ôl enw arall fel ag y mae (hy. heb ôl-ddodiad ansoddeiriol). Ond dwi heb edrych ar y diffiniadau mathemateg o'r termau yn Saesneg felly dwi ddim yn siwr o 'mhethau yma.
  • Beth am trefnolyn olynol yn lle trefnolyn olynyddol ar gyfer successor ordinal? Oes na derm Saesneg arall sy'n swnio'n debyg i successor ordinal, bod angen bod yn gyfrwys wrth fathu yn Gymraeg?

Gyda llaw, gwelaf trefnol yn cael ei ddefnyddio wrth ei hunan i olygu ordinal mewn ysgrifau ar ramadeg, ond nid mewn ysgrifau ar wyddoniaeth - ond yw iaith yn beth cymhleth? Diolch i Tomos ANTIGUA Tomos am ddarganfod y Termiadur ar-lein - fe ychwanegaf hwn at y rhestr adnoddau ar y Canllawiau Iaith (er nad wy'n or-hoff o rai o'r cynigion ynddo - oes rhywun wedi trio ynganu archaeoleg - mae'n swnio fel cri rhyfel brodor o Ogledd America - rwyn tybied mai'r ynganiad amhosib yma yw'r rheswm nad yw Bruce ond yn cynnig archeoleg yng Ngeiriadur yr Academi). Lloffiwr 19:12, 28 Ebrill 2007 (UTC)Ateb

Diolch am y sylwadau. Dwi heb dynnu'r cysylltnod o traws-feidraidd am y tro, dwi'n meddwl ei fod yn gwneud yr ystyr yn glirach. Am wn i, does dim cysylltnod yn y gair Saesneg am nad yw "trans" yn air ar ben ei hun fel traws. Dwi wedi newid i ddefnyddio "trefnolyn terfan" a "threfnolyn olynydd" (dwi'n meddwl fod hynny'n gwneud mwy o synnwyr na "threfnolyn olynol" - mae trefnolyn o'r fath yn olynydd i ryw trefnolyn arall - yn yr un modd ag y mae olynydd terfan yn derfan i ddilyniant o drefnolion). Mae rhywbeth braidd yn anaturiol am trefnolion terfan/olynydd, ydy defnyddio trefnolion terfannau/olynyddion yn gywir? Hwyl, --Llygad Ebrill 12:58, 29 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Trefnolyn".