Sgwrs:Tsietsnia

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Enw

Enw golygu

Rwyf wedi creu hon fel "Tsietsnia" er mwyn cysondeb, gan ein bod wedi cytuno i ddefnyddio "Tseina" beth amser yn ôl, ond alla i ddim dwud mod i'n hoffi'r ffurf. Porius1 07:31, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

I mi, mae'n gwbwl dderbyniol gan mai Tseina dwi wedi ei sgwennu erioed. Ond mae newid yn anodd i unrhyw un. Y cwestiwn pwysicaf efallai, Rhion, ydy beth mae Dafydd Orwig / y brifysgol ayb yn ei ddefnyddio? Oes cysonni termau'n dal i ddigwydd ar-lein? Llywelyn2000 08:15, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Dwi'n cyfadde bu rhaid i mi feddwl beth oedd o'n olygu am eiliad pan welais i 'Tsietsnia', gan fy mod wedi arfer â'r ffurf 'Chechnya', ond ar y llaw arall dwi wedi gweld Cymreigiadau gwaeth. Yr anhawster mawr ydy'r ffaith fod yr enwau "swyddogol" am leoedd tramor yn Gymraeg yn amrywio cymaint. Y gwir ydy does 'na ddim cysondeb (ac eithrio yn achos enwau hir-sefydlog). Mae perygl i ni greu enwau sy mond yn bodoli ar y wicipedia hefyd. Ceir sawl term Cymraeg am Tsieina/Tseina/China/ayyb, ond o leia mae nhw yn y geiriadur ac mewn llyfrau. Un o'r problemau, wrth gwrs, ydy gwybod yr ynganiad go iawn, yn yr iaith frodorol; fel arall rydym ni mewn perygl o Gymreigio termau Saesneg. Mae hyn yn hen hen broblem wrth gwrs, felly 'mond ychwanegu fy mhwt ydwi rwan (mae 'na drafodaeth ar dudalen sgwrs enwau gwledydd, dwi'n meddwl; Gwledydd y byd efallai?). Anatiomaros 18:40, 5 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Tsietsnia".