Sgwrs:Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros

Ai "Trefn" yw'r cyfieithiad gorau o "Order" yma? Efallai y byddai rhywbeth fel "Urdd" yn well? Rhion 10:53, 14 Medi 2007 (UTC)Ateb

Mae Rhion yn iawn. URDD yw'r term, nid Trefn (gweler, er enghraifft...
Mae 'na sawl term arall sy'n anghywir hefyd, e.e. "marchogaeth" (=marchogu ceffyl). Dwi ddim yn meddwl fod rhaid i rywun fod yn "genedlaetholwr" i dderbyn aelodaeth yn yr urdd chwaith, ond y gwrthwyneb! Anatiomaros 13:26, 14 Medi 2007 (UTC)Ateb


Ie, 'Urdd' yn derm gwell ar gyfer Order ... mi newidiai hwn cyn gynted a gai gyfle.
Yn ôl y geiriadaur a'r termiadur, does dim gwahaniaeth ramadegol i'w weld rhwng knight marchog ceffyl a marchog wedi ei urddo.
Mae'n rhaid bod yn National yng ngwlad ble mae'r frenhines yn ben-teyrnas i Farchog neu Bonesig allu defnyddio'r term Syr neu Bonesig, 'cenedlaetholwr' oedd y gorau oeddwn ni'n gallu ei weld ::fel term cyfatebol yn y geiriadur! Thaf 14:31, 14 Medi 2007 (UTC)Ateb
Er efallai ddim yn 100%, byddai 'Dinesydd' yn well na chenedlaetholwr (Prydeinig/Cymreig)--Ben Bore 14:59, 14 Medi 2007 (UTC)Ateb
Dwi wedi aileirio un o'r paragraffau (urdd marchog = knighthood fel urdd; ymadrodd hirwyntog braidd yn lle 'cenedlaetholwr'=nationalist, gan nad yw dinesydd cweit yr un peth o reidrwydd). Peidiwch â phoeni am y camgymeriadau; weithiau mae cael hyd i dermau Cymraeg am dermau estroniaith yn anodd. Ond bydd rhaid newid y categori a dileu'r hen un - gwell gofyn os nad ydych yn siwr am y term cyn creu categori(au). Hwyl, Anatiomaros 15:12, 14 Medi 2007 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig".