Sgwrs:Y Fyddin Derracotta

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Teracota yn y Gymraeg, gan nad oes dwy 't'.

Gair Eidaleg yw, nid Cymraeg, ac mae dwy 't' yn yr Eidaleg. Y gair Cymraeg, yn ôl Geiriadur yr Academi, yw "Melyngoch(ion)", ond prin y byddai "Byddin y Melyngochion" yn golygu llawer i neb. Rhion 12:15, 17 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Ac mi gredais i mai Cymreigio geiriau Saesneg oedd y bwriad: dyma'r drefn arferol, fel eu bont yn ddarostyngedig i reolau a theithi iaith. Ydech chi'n cynnig newid ffenestr yn ol i "fenestra" neu'r Lladin "luminare" hyd yn oed? Mae'n rhaid ymgorffori geiriau estron o fewn rheolau J Morris Jones ac eraill.
Prin yw'r enghreifftiau o'r gair yn y Gymraeg, ond ceir 'terracota' yn Ngeiriadur Prifysgol Cymru (ceir "Teracota, gw. terracota" hefyd). Mai 'teracota' yn Gymreigiad mwy naturiol (dim angen y ddwy 'r'?) yn fy marn i, ond wedyn rhaid i ni ddilyn y geiriaduron a/neu lyfrau cyfoes. Oes gan rywun enghreifftiau eraill? Un ffordd i osgoi'r anhawster efallai yw defnyddio'r gair 'priddwaith'. Y diffiniad a geir yn GPC yw "Priddwaith (browngoch) heb ei wydro...". Mae 'na sawl fath o briddwaith ond o leia mae'n derm Cymraeg adnabyddus. Anatiomaros 16:56, 17 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Y Fyddin Derracotta".