Y Fyddin Derracotta

Y Fyddin Derracotta yw'r enw a ddefnyddir am y 9,099 o ffigyrau terracotta sy'n gwarchod bedd ymerawdwr cyntaf Tsieina. Qin Shi Huangdi (259 CC210 CC), gerllaw dinas Xi'an, talaith Shaanxi, yng nghanolbarth Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Un o filwyr y fyddin

Adeiladodd yr ymerawdwr ei fawsolewm rhwng dinas bresennol Xi'an a mynydd Li. Dywedir iddo ddefnyddio 700,000 o weithwyr ar gyfer y gwaith. Ffurfia'r mawsolewm balas dan dwmpath bedd sy'n 76 medr o uchder yn awr ond a oedd ar un adeg yn 115 medr o uchder. , gyda muriau 10 hyd 15 medr o drwch o'i amgylch.

Darganfyddwyd un o'r milwyr terracotta yn 1974 gan ffermwyr. Wedi cloddio archaelegol, cafwyd hyd i fyddin gyfan ohonynt, gwŷr traed a gwŷr meirch. Dynodwyd y safle yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987.

Y Fyddin Derracotta