Sgwrs:Y Gop
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Carnedd y Gop golygu
Dwi'n meddwl fod tipyn o ddryswch yma. Yn ôl llyfr Helen Burnham (a gyhoeddwyd gan CADW) a phob llyfr arall dwi wedi darllen sy'n cyfeirio ati, carnedd ydy'r heneb anferth ar ben y Gop. Cadarnheir hyn gan y ddolen i wefan Coflein a ychwanegwyd gen ti: (Enw:) GOP CAIRN; Y GOP; GOP HILL CAIRN; Math o Safle[:] CAIRN; (Disgrifiad:) "Gop Cairn is a titanic cairn, 75-80m in diameter and 12m high..." ([1]).
Rwyt ti'n rhoi cyfeirnod y crug crwn fel SJ088801, ond SJ086801 yw cyfeirnod y garnedd (gw. Burnham a Choflein - cadarnheir hyn gan y map OS hefyd). Ceir sawl crug crwn (round barrow) ger y garnedd; amlwg felly mai at un o'r henebion hynny y mae'r cyfeirnod SJ088801 yn cyfeirio ac nid y garnedd ar gopa'r Gop.
Dwi wedi adfer y disgrifiad o'r garnedd a nodi'r crug crwn fel heneb arall. 'Run fath gyda'r categori. Anatiomaros 16:04, 14 Tachwedd 2010 (UTC)
ON Ar ôl disgrifio'r garnedd, ceir hyn gan Helen Burnham: "Whatever its date, a considerable concentration of Bronze Age barrows, some of which are visible on the ridge to the north-west, surrounds the cairn, which remains a prominent landmark." At un o'r crugiau hyn y mae dy gyfeirnod yn cyfeirio, nid y garnedd enwog. Anatiomaros 16:10, 14 Tachwedd 2010 (UTC)