Sgwrs:Ynysoedd Balearig
Sylw diweddaraf: 18 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros
Mae Geiriadur yr Academi yn rhoi 'Ynysoedd Balearaidd' fel ffurf Gymraeg enw'r ynysoedd hyn. Fuasai'n well newid teitl yr erthygl hon? Siswrn 19:12, 2 Tachwedd 2006 (UTC)
- Mae "Ynysoedd Balearaidd" yn fwy cywir (dynwarediad o'r enw Saesneg Balearic Islands ydi "Ynysoedd Balearig"). Ond unwaith eto does dim cysondeb. Yn Yr Atlas Cymraeg (yr hen un) ceir y ffurf "Ynysoedd Baleares". Ar lafar dwi'n siwr byddai'r mywafrif o bobl yn dweud "Ynysoedd Balearig", ond mater o safle'r Gymraeg heddiw ydi hynny a dylanwad y Saesneg arni. Gydag ail-gyfeiriad o'r fersiynau eraill iddo does gennyf ddim gwrthwynebiad o gwbl i newid y teitl fel da' chi'n awgrymu. (Tra bod ni ar gwestiwn enwau lleoedd, mae 'na sgwrs bach rhyngof fi a Defnyddiwr:Daffy yn berthnasol hefyd: Sgwrs:Coweit). Anatiomaros 19:44, 2 Tachwedd 2006 (UTC)