Ynysoedd Balearig
Ynysoedd yn y Môr Canoldir
Mae Ynysoedd y Balearig (Catalaneg: Illes Balears; Sbaeneg: Islas Baleares) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen. Fe'i lleolir yn y Môr Canoldir oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Sbaen. Rhennir yr ynysoedd yn ddau grŵp:
- Y Gimnesias: Menorca, Mallorca, Cabrera a rhai ynysoedd llai megis Dragonera.
- Y Pitiusas: Ibiza, Formentera ac ynysoedd bach o'u cwmpas.
![]() | |
![]() | |
Math | ynysfor ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,149,460, 1,173,008 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,991.66 km² ![]() |
Gerllaw | Y Môr Canoldir ![]() |
Cyfesurynnau | 39.5°N 3°E ![]() |
ES-IB ![]() | |
![]() | |
Ymddengys fod y gair "Balearig" yn dod o'r iaith Bwneg yn wreiddiol, ac yn dynodi gwlad y "taflwyr cerrig". Roedd milwyr o'r ynysoedd hyn yn enwog am ei gallu gyda ffyn tafl, a gallent eu defnyddio i daflu cerrig bychain bron fel petaent yn fwledi. Gwnaeth cadfridogion fel Hannibal lawer o ddefnydd ohonynt yn eu rhyfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid pan oedd yr ynysoedd ym meddiant Carthago.