Sgwrs Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Comin

Wel bois bach, dyma ddiddorol! Tydwi heb weld llun o Enlli ers 40 o flynyddoedd. Fantastig. A dwi wedi clywed gymaint am y ddau fardd. Drychwch ar y gwaith cywrain ar y gadair. Mam Bach! Diolch am y tri llun. Diolch yn fawr. 195.62.202.141 18:36, 9 Awst 2008 (UTC)Ateb

Chwaneg! golygu

Mae'r delweddau a gyfranwyd yn werth chweil, ond, efallai yn undonnog yn yr ystyr mai dim ond pobol sydd yma; dynion fynychaf. Mae gen i apêl: beth am ryddhau ychwaneg o luniau - casgliadau eraill, efallai? Beth am luniau plant o'r cyfnod? Adeiladau amrywiol? Arteffactau megis fan hufen iâ yn y 20au, tegan plentyn, effaith y rhyfel ayb ayb. Llywelyn2000 22:23, 28 Medi 2008 (UTC)Ateb

Comin golygu

Dwi'n meddwl bod y cyfan o'r delweddau hyn ar gael ar Gomin rwan diolch i'r Llyfrgell Genedlaethol, ond bod enwau'r ffeiliau'n wahanol. Cliciwch ar ddelwedd i weld hynny. Gan eu bod ar Gomin ac yn ddiogel yno hefyd dylem eu dileu yn lleol a defnyddio'r delweddau ar Gomin. Anatiomaros (sgwrs) 00:09, 11 Tachwedd 2014 (UTC)Ateb

Dwi bron iawn wedi gorffen gwagio'r categori hwn - gwaith digon diflas sy wedi cymryd bron i ddwy awr heno. Peidiwch da chwi ag ychwanegu ffeiliau newydd: Maen nhw I GYD ar gael ar Gomin. Anatiomaros (sgwrs) 02:32, 11 Mawrth 2015 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Delweddau o gasgliad John Thomas".