Croeso i'r Wicipedia Cymraeg, 博 Bo, Anatiomaros 15:16, 27 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Diolch. Efallai mod i wedi camddarllen y cymeriad Tsieinëeg, ond dyna sydd yn fy ngeiriadur. Kanji ydy o efallai? Os felly mae'r ynganiad yn wahanol. Dewis diddorol, beth bynnag! Anatiomaros 14:23, 28 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

A, dwi'n gweld rwan. Dwi'n gwybod ei fod yn cael ei ddefnyddio gyda chymeriadau eraill fel 'bó'ài' (brawdgarwch) ond roedd fy ngeiriadur yn rhoi'r ynganiad 'Bó' ar gyfer y cymeriad ei hun. Dwi'n deall rhywfaint o Siapaneg ond dim llawer iawn o Tsieinëeg, felly maddeuwch fy anwybodaeth! Anatiomaros 15:42, 28 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Mae 博士 (ハクシ / はかせ) yn air newydd imi. Kyóshi neu, yn amlach, sensei yw'r geiriau dwi'n nabod (mae'r kanji'n wahanol i hakase hefyd). Rhaid imi chwilio o i fyny pan gaf amser (ac mae chwilio gair mewn geiriaduron kanji yn gymhleth weithiau!). Does dim furigana gennyf ar y cyfrifiadur felly dwi'n gorfod defnyddio ffurfiau romaji (llythrennau gorllewinol), yn anffodus. Anatiomaros 16:37, 28 Mawrth 2007 (UTC)Ateb