Diolch am y cywiriadau cwbl ddilys ac ychwanegiadau gwerthfawr i'r erthyglau am Ewlo, Maelor Gymraeg, a.y.y.b. Fe welwch fy mod wedi dileu'r tudalennau ac adfer yr erthyglau gwreiddiol ac wedyn eu symud i'r enwau cywir. Y rheswm am hynny yw bod pob tudalen yn cynnwys ei hanes ac mae'n bwysig cadw hynny. Felly ni ddylech copïo a phastio i dudalen ag enw newydd/cywir, ond yn hytrach symud y dudalen ei hun i'r enw newydd (fel yna mae'r hanes i gyd ar gadw).

Diolch am ychwanegu'r plwyfi hefyd. Mae gennyf ffynnonellau da am rai rannau o Gymru ond mae rhannau o'r gogledd-ddwyrain yn broblem oherwydd diffyg deunydd a'r hyn sydd ar gael yn tueddu i ddefnyddio ffurfiau Saesneg ar enwau lleoedd. Gobeithio y cewch y cyfle i ychwanegu chwaneg rywbryd yn y dyfodol. Os oes unrhyw broblem neu gwestiwn yn codi, rhowch wybod imi ar fy nhudalen Sgwrs. Diolch eto, Anatiomaros 15:37, 1 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Dyma dudalen sgwrs ar gyfer defnyddiwr anhysbys sydd heb greu cyfrif eto, neu nad yw'n ei ddefnyddio. Felly mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfeiriad IP i'w adnabod. Mae cyfeiriadau IP yn gallu cael eu rhannu rhwng nifer o ddefnyddwyr. Os ydych chi'n ddefnyddiwr anhysbys ac yn teimlo'ch bod wedi derbyn sylwadau amherthnasol, crëwch gyfrif neu mewngofnodwch i osgoi cael eich drysu gyda defnyddwyr anhysbys eraill o hyn ymlaen.