Mae'r wicipedia yn agored i bawb gyfrannu a golygu a byddem yn croesawu erthygl gennych am 'gloeau'. Y peth hawsaf ichi wneud ydi clicio ar 'Cymorth' yn y panel llywio ar chwith eich sgrin. Cewch fanylion yno ar sut i greu a sgwennu erthyglau. Dydi o ddim yn anodd unwaith ichi dechrau arfer.

I ddechrau'r erthygl rhowch y gair Clo yn y blwch Chwilio (ar y chwith). Yna cliciwch Mynd. Bydd Clo yn dangos mewn coch ar ben y ddalen. Cliciwch ar hynny a bydd tudalen yn agor i chi sgwennu'r erthygl. Pan fyddech yn barod cliciwch 'Dangos rhagolwg' (i weld os di o'n edrych yn iawn) neu 'Cadw'r dudalen' i'w safio hi.

Croeso ichi adael neges yn Y Caffi neu ar fy nhudalen sgwrs (cliciwch yma: Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros) os 'da chi angen mwy o gymorth. Gobeithio byddech yn mwynhau sgwennu'r erthygl! Anatiomaros 19:44, 24 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb

Roedd rhywun yn y gorffennol wedi ail-gyfeirio Clo i'r erthygl am y Clo rygbi. Gwirion braidd, ond dwi wedi trwsio hynny rwan a chreu tudalen ichi. Cliciwch ar hyn - Clo - i fynd yno. Anatiomaros 19:55, 24 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb

Dyma dudalen sgwrs ar gyfer defnyddiwr anhysbys sydd heb greu cyfrif eto, neu nad yw'n ei ddefnyddio. Felly mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfeiriad IP i'w adnabod. Mae cyfeiriadau IP yn gallu cael eu rhannu rhwng nifer o ddefnyddwyr. Os ydych chi'n ddefnyddiwr anhysbys ac yn teimlo'ch bod wedi derbyn sylwadau amherthnasol, crëwch gyfrif neu mewngofnodwch i osgoi cael eich drysu gyda defnyddwyr anhysbys eraill o hyn ymlaen.