Sgwrs Defnyddiwr:Adda'r Yw/Mynegai i'r categorïau
Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Adam
Rwyn hoffi golwg y dudalen gen ti Adam. Mae'n debyg dy fod wedi defnyddio'r prif gategorïau pwnc sydd gennym ar hyn o bryd. Mae'n debyg y caiff y rhain eu hehangu rywbryd - mae'n debyg y dylai 'Athroniaeth' a 'Crefydd' ill dau fod yn brif adrannau rywbryd. Dwi'n gwybod nad yw 'Adran gyfeirio' yn bwnc sylfaenol ond efallai y byddai'n fuddiol ei gynnwys yn y mynegai - er, wedi dweud hyn, nid yw'r adran hon yn fawr iawn eto beth bynnag. Dyna ddigon wrtha' i, yn enwedig a'i bod yn hwyr iawn i fod yn meddwl yn glir! Lloffiwr 21:34, 22 Medi 2007 (UTC)
- Mae'n edrych yn fendigedig, Adam. Diolch am yr holl waith arno. Fel mae Lloffiwr yn deud, mae'n hwyr braidd i edrych arno'n iawn a mynd trwy bob dim, ond gwnaf hynny dros y dyddiau nesaf. Anatiomaros 21:42, 22 Medi 2007 (UTC)
- Un peth bach. Beth am ychwanegu Llenyddiaeth Cymru ([[Categori:Llên Cymru]] am lenyddiaeth Gymraeg, llenyddiaeth Saesneg Cymru a Lladin hefyd)? Mae'n un o'r adrannau mwyaf sydd gennym ni. Anatiomaros 21:47, 22 Medi 2007 (UTC)
- Categori:Llên Cymru nawr o dan "Cymru". Wnes i feddwl am greu blwch gwahanol i'r rhai eraill ar frig neu waelod y dudalen gyda chysylltiadau i'r rhestrau geiriaduron, gwyddoniaduron ac ati. Byddai'n mynd ati i wneud hwnna yfory neu yn yr wythnos, ac hefyd i drio cynnwys categorïau athroniaeth a chrefydd yn y mynegai. Diolch a nos da, —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:03, 22 Medi 2007 (UTC)
- 'Dwi wedi rhoi cynnig ar Adran Gyfeirio ac yn bwriadu ei hehangu. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 21:01, 26 Medi 2007 (UTC)
- Oherwydd bod y dudalen yn rhy hir i'w weld ar un olwg, byddai'n well ystyried rhoi teitlau'r adrannau ar frig y dudalen, fel bod clicio ar y teitl yn mynd â dyn yn syth at yr adran honno. Lloffiwr 23:06, 29 Medi 2007 (UTC)
- 'Dwi 'di dylunio taflen cynnwys ar frig y dudalen. Oes rhagor o awgrymiadau gan unrhywun? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 16:10, 3 Hydref 2007 (UTC)