Sgwrs Defnyddiwr:Asdfghjohnkl/Class 153 Rheilffyrdd Prydeinig
Golygu
golyguGobeithio nad oes ots gyda ti, ond dwi wedi cywirio rhai treigliadau - os nad yw'n amlwg pam dw i wedi newid rhai, plis gofynna ar fy nhudalen sgwrs. Dwi ddim yn arbennigwr iaith (er dylwn fod yn well arni erbyn hyn), ond yn hapus i rannu'r ychydig wybodaeth gramadegol sydd gennyf.
Tra ti'n disgwyl ymateb eraill yn y dudalen cymorth iaith, falle byddia'n werth gofyn yno am beth i'w ddefnyddio yn lle 'Operators'. Baswn i'n cynnig 'Darprwyr Gwasanaeth'. Bu helynt diweddar gyda Virgin ddim yn cael y cytundeb ar gyfer lein yn ne orllewin Lloegr - falle gellir edrych ar y stori ar golwg360 i weld beth ddefnyddiwyd yno - er tydy'r wefan hynny ddim o hyd yn ei chael hi'n iawn.
Gwaith da gyda llaw a diolch am ddod yma i gyfrannu.--Rhyswynne (sgwrs) 21:37, 30 Awst 2013 (UTC)