Defnyddiwr:Asdfghjohnkl/Class 153 Rheilffyrdd Prydeinig
British Rail Class 153
| |
---|---|
Mewn Gwasanaeth: | 1991/2-presennol |
Gwneuthurwr: | British Leyland Wedi eu arnewid i Class 153au gan Hunslet-Barclay |
Teulu: | Sprinter |
Wedi'u creu: | 1987-1988 Wedi'u adnewyddu 1991-1992 |
Adnewyddiad: | Amrywiol |
Nifer wedi'u creu: | 70 (35 Class 155au cyn cael eu arnewid) |
Ffurfiad: | Un cerbyd |
Cynhwysedd: | 72 neu 75 |
Gweithredwyr: | Trenau Arriva Cymru East Midlands Trains First Great Western London Midland Greater Anglia Northern Rail |
Trên un cerbyd sydd wedi'i arnewid o'r British Rail Class 155au yw'r British Rail Class 153.
Disgrifiad
golyguAdeiladwyd y trênau hyn yn wreiddiol fel unedau dau gerbyd gan British Leyland yn 1987-88 ond cawsant eu arnewid yn 1991-92 gan Hunslet-Barclay yn Kilmarnock. Mae cynllun yr ochrau cab newydd yn dra wahanol i'r rhai gwreiddiol, ac nid yw'r ochrau'n gymesur.
Eu cyflymder uchaf yw 75 mya ac maent yn addas iawn ar gyfer gwasanaethau llai poblogaidd megis gwasanaeth London Midland o Coventry i Nuneaton a Rheilffordd Calon Cymru. Maent yn gallu gweithio ynghlwm a'i gilydd a hefyd gyda thrênau eraill sy'n ddefnyddio'r un dechnoleg megis y Class 150, Class 156 a'r Class 158 ond hefyd trênau mwy diweddar fel y Class 170.
Mae'r cab newydd yn llai na'r un gwreiddiol ac nid oes cymaint o le ar gyfer gyrrwyr a thocynnwyr. Yn debyg i lawer o'r Sprinterau eraill fel y Class 156 a'r Class 158 mae yna gysylltiadau eil ar ochrau'r cerbyd er mwyn i bobl gerdded o un cerbyd i'r llall pan maent yn gweithio gyda'i gilydd.
Rhifwyd y trênau yn yr amrediadau 153301-335 a 153351-385. Rhifwyd y cerbydau eu hunain 52301-335 a 57351-385 (yn wreiddiol 57301-335).
Gweithrediadau
golyguBritish Rail
golyguYr oedd British Rail angen trenau newydd i gymryd lle'r Class 121au British Rail ar gyfer gwasanaethau oedd ddim yn gweld llawer o deithwyr.
Ol-preifateiddio
golyguAr ol i preifateiddio British Rail, cafodd y trenau Class 153 eu rhannu rhwng amrhywiaeth o gweithredwyr.
Cymru
golyguMae gan Trenau Arriva Cymru 8 Class 153.[1] Defnyddiwyd fel arfer ar rheilffyrdd gwledig megis y Rheilffordd Calon Cymru o Amwythig i Abertawe a'r rheilffordd o Wrecsam Canolog i Bidston ond defnyddwyd hefyd ar rhai gwasanaethau ar prif rheilffyrdd. Yn Rhagfyr 2005, defnyddiodd Arriva i rhedeg gwasanaeth ar y Butetown Branch Line rhwng Caerdydd Stryd y Frenhines a Bae Caerdydd sydd bellach yn cael ei rhedeg gan Class 121.
Ar ol newidiadau i'r amserlennau ar 9 Rhagfyr 2007, collodd Trenau Arriva Cymru dri Class 153 ac aethant i East Midlands Trains a First Great Western.
Canolbarth Lloegr
golyguDefnyddir deg Class 153 gan London Midland ar rheilffyrdd yn y Gorllewin Canolbarth Lloegr gan cynnwys o Coventry i Nuneaton a rheilffordd Marston Vale rhwng Bedford a Bletcheley.
Roedd yr holl unedau a etifeddwyd gan Central Trains yn lifrau'r cwmni. Cafodd yr holl unedau eu hail-beintio i lifrau London Midland City ar ol cael eu adnewyddu yn Eastleigh.
Cafodd y Class 153au a ddefnyddiwyd ar y Rheilffordd Stourbridge Town eu disodli gan drenau Class 139. Digwyddodd hynny yn Mehefin 2008, ond cafodd eu cyflwyniad ei oedi ac ailgyflwynodd London Midland drenau diesel nes yr oedd y trenau'n barod. Dechreuodd y trenau newydd eu gwasanaeth yn Mehefin 2009[2].
Defnyddir East Midlands Trains Class 153au ar y rheilffyrdd gwledig isod:
- Nottingham i Worksop
- Nottingham i Matlock trwy Derby
- Nottingham i Skegness (Yn ogystal a trenau eraill yn unig neu os mae tren arall wedi torri i lawr)
- Nottingham i Caerlyr Canolog (Yn ogystal a trenau eraill yn unig neu os mae tren arall wedi torri i lawr)
- Peterborough i Lincoln Canolog a Doncaster
- Newark Northgate i Cleethorpes
- Derby i Crewe trwy Stoke-on-Trent
Etifeddodd East Midlands Trains nifer o enghreifftiau gwahanol o drenau Class 153, chwech o Central Trains, tri o National Express East Anglia] a pedwar oedd yn cael eu storio yn depo Eastleigh (a oedd wedi cael eu ddefnyddio gan First Great Western). Ar 9 Rhagfyr 2007, cafodd East Midlands Trains dau tren Class 153 ychwanegol o Trenau Arriva Cymru a dau o Northern Rail
Mae'r trenau Class 153 East Midlands Trains i gyd ar wahan i dri wedi cael eu hailbeintio i lliwiau'r cwmni. Mae trenau 153376, 153379 a 153384 yn parhau i fod â lliwiau Central Trains arnynt, ond gyda brandio East Midlands Trains.
De Orllewin Lloegr
golyguCymerodd First Great Western drosodd y trenau Wesssex Trains ar ol i'r dwy trwydded uno. Roedd Wessex Trains wedi etifeddu eu trenau yn wreiddiol o Wales and West.
Defnyddir y trenau ar gwasanaethau yn Cernyw, Dyfnaint ac o gwmpas Bristol. Maent hefyd yn cael eu defnyddio ar gwasanaethu Bristol Temple Meads i Weymouth, Southampton a Caerwrangon a gwasanaeth Swindon i Southampton trwy Melksham
Yng nghanol 2004, enillodd Wessex Trains dwy uned o Central Trains.
Liveries
golygu-
Lifrau BR Regional Railways (2003)
-
Lifrau Trenau Arriva Cymru (2007)
-
Lifrau London Midland (2008)
-
Lifrau East Midlands Trains (2007)
-
Lifrau Anglia Railways (2003)
-
Lifrau First Great Western (2007)
-
Lifrau First Great Western--Maritime Line o Truro i Falmouth
-
Lifrau Central Trains (2003)
-
Lifrau Northern Rail (2007)
-
Lifrau Greater Anglia (2012)
Fflyd
golyguClass | Gweithredwr | Nifer wedi'u hadeiladu | Blwyddyn wedi'u hadeiladu | Cerbydau yn set | Rhifau |
---|---|---|---|---|---|
Class 153 | Trenau Arriva Cymru | 70 | 1991–1992 | 1 | 153303, 153312, 153320, 153323, 153327, 153353, 153362, 153367 |
East Midlands Trains | 153302, 153308, 153310-153311, 150313, 153319, 153321, 153326, 153355, 153357, 153374, 153376, 153379, 153381, 153383-153385 | ||||
London Midland | 153334, 153354, 153356, 153364, 153365, 153371, 153375 | ||||
Greater Anglia | 153306, 153309, 153314, 153322, 153335 | ||||
Northern Rail | 153301, 153304, 153307, 153315-153317, 153324, 153328, 153330-153332, 153351, 153352, 153358-153360, 153363, 153366, 153378
Ex Arriva Trains Northern: 153301/304/307/315/317/328/331/351/352/378 Ex First North Western: 153316/324/330/332/358-360/363 | ||||
First Great Western | 153305, 153318, 153325, 153329, 153333, 153361, 153368, 153369, 153370, 153372, 153373, 153377, 153380, 153381 |
Modelau
golyguPan cafodd yr unedau eu cyflwyni am y tro cyntaf, Creuodd Hurst Models pecyn i troi model o Class 155 i Class 153.[3]
Mae'r Class 153 wedi'i creu mewn 00 Gauge gan Hornbyyn y lifrau canlynol: Central Trains, First Northern Star, Northern Rail, Regional Railways, East Midlands Trains, London Midland City and Great Scenic Railways of Wessex and Cornwall (Wessex Trains).[4]
Mae fersiwn N Gauge wedi'i creu gan Dapol.[5]
Mae model am Microsoft Train Simulator wedi'i greu gan Making Tracks.[6] ac mae model am Railworks wedi'i greu gan Just Trains
References
golygu- ↑ (Saesneg)http://www.arrivatrainswales.co.uk/Fleet/
- ↑ (Saesneg) "Stourbridge railcar receives its passenger licence". London Midland. 2 Ebrill 2009. Cyrchwyd 11 Ebrill 2009.
- ↑ (Saesneg)"DKU103 Pair of Class 153 Conversion Kits". Hurst Models.
- ↑ (Saesneg)"Error 404".
- ↑ (Saesneg)"Class 153 released". Dapol.
- ↑ (Saesneg)"BMUC 6 :: Leyland Class 153 / Class 155 Stock Pack". Making Tracks.