Croeso (am y cymorth a hefyd 'croeso i'r wicipedia'!). Anatiomaros 21:46, 24 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb

Sut mae? Dwi newydd dod yn ôl a darllen dy neges. Yn swyddogol dydi'r wicipedia ddim yn caniatau dolenni masnachol a hysbysebu. Dwi'n meddwl efallai fod modd gweld y ddolen at dy wefan fel 'na, yn arbennig gan fod enw'r cwmni a'r gwasanaeth mor amlwg. Beth am grynhoi'r hyn sydd yno/ei gopio i fan'ma (mae hynny yn erbyn y rheolau fel rheol hefyd, ond gan mai chi bia'r gwefan does dim problem)? Gobeithio fod hynny'n egluro'r sefyllfa. Mae'n braf gweld gwefan Cymraeg o'r fath, ond "rheolau ydi rheolau" a rhaid i bawb ohonom ni eu dilyn.
Gyda llaw, i nodi Egin rhaid rhoi {{eginyn}} i mewn ar waelod y ddalen. Ar dudalennau Sgwrs / Y Caffi etc (ond byth mewn erthygl) mae pedwar tilde (~) fel hyn ~~~~ yn rhoi dy "lofnod" i mewn gyda'r dyddiad a'r amser. (Fôn) Anatiomaros 18:34, 26 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb
Yn cytuno gyda sylwadau Anatiamaros. Hoffwn ychwanegu bod dolen gyswllt i wefan Delyn Locksmiths ar y tudalen defnyddiwr yn dderbyniol. Mentraf ehangu rhywfaint ar y categoreiddio ar gyfer cloeon - gallwch ei newid os nad yw'n plesio. Lloffiwr 15:30, 28 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb

Wedi adio categori a chyswllt rhyngwici i Wikipedia Saesneg at Padglo. Fe ddoi di'n gyfarwydd a sut mae gwneud pethau ar Wicipedia o dipyn i beth. Dwi'n dal i fod eisiau gwneud popeth ar unwaith yma ond yn gorfod cadw at yr ychydig bethau y gallaf eu gwneud yn fy oriau hamdden. Hola eto os bydd rhywbeth yn dy boeni. Gyda llaw, ychwanegu cyfraniadau ar waelod tudalennau sgwrs yn hytrach nag ar y pen yw'r arfer, fel ag ydw i'n gwneud nawr. Dylai fod scroll bar ar ochr dde y bocs golygu i fynd â thi i waelod y bocs golygu. Lloffiwr 18:16, 29 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb