Sgwrs Defnyddiwr:Llyfrog/Y Drafod Newydd
Dymunaf ddadlau dros gadw'r erthygl
golyguHoffwn gadw'r erthygl 'Y Drafod Newydd' os nad oes gwrthwynebiad mawr, ac mae hynny am y rhesymau canlynol;
Yn achlysurol fel arfer y caf gyfle i gyfrannu ychydig ddata neu weithgarwch ar Wicipedia.
Cefais ychydig brofiad yn teipio erthyglau a gosod lluniau ar dudalennau Wicipedia yn y gorffennol, ond mae peth amser wedi pasio ers imi wneud hynny, ac, o bosib, mae fy mhrofiadau y pryd hynny yn annigonol ar gyfer beth oedd fy mwriad sylfaenol rhannu gwybodaeth ar-lein. (Os nad wyf wedi cyflawni meini prawf neu amodau defnyddiwr gyda Wicipedia, yna rwy'n ymddiheuro. Ble mae gwybodaeth pellach am hynny os gwelwch yn dda ?)
Os nad wyf yn dwyn neu wastraffu gofod pobl eraill tra'n ceisio gwella ychydig ar y bwriad gwreiddiol bob hyn a hyn, yna byddwn yn gwerthfawrogi caniatad yr 'awdurdod' priodol i gael gwneud hynny. Diolch am fy atgoffa bod rheolau i ddefnyddwyr Wicipedia. Roeddwn wedi chwilio tipyn am fwy o wybodaeth, ac yn enwedig felly yn y Gymraeg, ond heb ddarganfod gwybodaeth digonol o bosib. Fe wnaf ymdrech i ddarllen eto am y pethau hyn gan obeithio y gallaf gadw at eich rheolau. A fyddech yn hapus i ganiatau ychydig wythnosau er mwyn imi gael dysgu mwy am y rheolau ?
Yn ddiffuant, y pry papur
- Mae yna restr o bolisïau a chanllawiau ar gael sy'n esbonio beth sydd angen ar gyfer creu erthygl Wicipedia. Mae pwynt 3 yn pwysleisio mai gwyddoniadur yw'r wefan - mae rhaid i erthygl fod am destun penodol, yn ateb meini prawf amlygrwydd ac yn cofnodi'r ffynonellau. Mae'r dudalen fel y mae hi yn restr moel o bynciau i'w drafod, sy'n awgrymu fforwm drafod. Nid dyma yw pwrpas y wefan. Os ydych am ymarfer ysgrifennu erthyglau Wicipedia, mae'n bosib gwneud hynny o fewn parth arbennig y defnyddiwr e.e.g Defnyddiwr:Llyfrog. Fe alla'i symud yr erthyglau i'r fan yna. Nid yw'r tudalennau yma yn rhan o brif cynnwys Wicipedia, ond mae'n galluogi defnyddwyr i baratoi ac ymarfer creu tudalennau. --Dafyddt (sgwrs) 17:18, 30 Ionawr 2020 (UTC)