Sgwrs Nodyn:Croeso
Coch i las
golyguDwi wedi lliwio'r testun "user page" (ar ddiwedd y nodyn) i las oherwydd roedd yn edrych yn hyll gyda phopeth yn lliwgar ac wedyn testun coch. Dych chi'n meddwl ei fod yn well i gadw fe yn goch, wedyn bydd y person yn gwybod bod yn rhaid iddo/iddo greu'r tudalen? -- Xxglennxx ★sgwrscyfraniadau★ 01:24, 6 Mai 2010 (UTC)
- Mae'n edrych llawer gwell. Awgrymaf: "y gwyddoniadur rhydd, am ddim a Chymraeg." Ysgol Dinas Bran 07:15, 6 Mai 2010 (UTC)
- Mae yn, yn dydi? Dwi wedi tynnu sylw at ddweud "... a Chymraeg" yma, ynglŷn â datganiad ar yr Hafan. Mae dweud "y gwyddoniadur rhydd, am ddim, a Chymraeg" fel dweud "the free encyclopaedia, available for free, and Welsh language" yn Saesneg. Mae dweud "ac yn Gymraeg" yn llawer gwell. Wrth ddiweddaru'r nodyn, roeddwn yn chwarae â thynnu "ac ar gael yn Gymraeg," oherwydd pam ydyn ni angen dweud mae fe yn Gymraeg mewn gwirionedd - wrth gwrs mae fe, rydych yn gallu gweld hynny! Mae hyn yn teimlo, imi, fel "o'r diwedd mae rhywbeth arall 'da ni yn Gymraeg!!!!" Ond beth bynnag, dwi'n hapus i'w gadw yno. Pleidleisiaf dros gadw "y gwyddoniadur rhydd, ac ar gael yn Gymraeg." -- Xxglennxx ★sgwrscyfraniadau★ 17:22, 6 Mai 2010 (UTC)
Deu fersiwn?
golyguBeth am inni gael dau fersiwn o'r nodyn hwn? Un ar gyfer pobl sydd wedi creu cyfrif, ac un ar gyfer cyfranwyr anhysbys? Gall y fersiwn "anhysbys" ddweud, "Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf - fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma. Rydym yn gweld nid oes dim cyfrif gennych - beth am greu un gan glicio ar "Mewngofnodi" ar frig y tudalen hwn?" Beth ydych chi'n meddwl? -- Xxglennxx ★sgwrscyfraniadau★ 00:53, 7 Mai 2010 (UTC)
- Bellach i'r syniad uchod - dwi wedi creu fersiwn bach Saesneg sy ar gael o'r prif fersiwn. Beth ydych yn meddwl? Mae croeso ichi ychwanegu/tynnu cynnwys. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:27, 11 Awst 2010 (UTC)