Sgwrs Nodyn:Gwybodlen Iaith

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Ailwampio

Beth am newid 'Rheolir gan' i 'Asiantaeth iaith' / 'Corff gweinyddol' neu rywbeth tebyg? (Neu 'Asiantaeth iaith|Rheolir gan'?). Mae'n sefyll allan mewn coch ar hyn o bryd a dydi o ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Anatiomaros 14:31, 14 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Cytuno. Asiantaeth iaith sydd orau gen i ond dim ond o fymrym. Lloffiwr 22:18, 14 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Ia, mae'n anodd taro ar yr enw iawn gan fod y sefyllfa'n amrywio o wlad i wlad, mae'n siwr. Beth yw ein 'Bwrdd Iaith' bach ni, er enghraifft? O ran hynny efallai fod 'Bwrdd iaith' yn well? Anatiomaros 22:35, 14 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Rwyf yn eistedd fan hyn yn crafu mhen go iawn! Bwrdd Iaith yn taro'n iawn. Falle mai newid yr enw pan fydd cyd-destun y wlad yn galw yw'r peth gorau i wneud. Lloffiwr 23:13, 15 Mawrth 2007 (UTC)Ateb
Yn niffyg cynigion a hefyd am fy mod wedi cael llond bol o weld y ddolen goch "Rheolir gan" (!) dwi am newid hynny i Corff rheoli iaith er mwyn creu eginyn. Bydd yn ddigon hawdd newid yr enw yn nes ymlaen, ac yn wir efallai bydd creu'r eginyn yn ysgogi diddordeb? Anatiomaros 17:23, 4 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb

Dosbarthiad genetig golygu

Mae'r term dosbarthiad genetig yn ymadrodd eithaf trwsgl. Beth am alw hwn yn 'achrestr ieithyddol'? Mae'n cyfleu beth sydd ei angen ac yn llai sych academaidd. Lloffiwr 18:52, 25 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Wedi mentro newid i achrestr ieithyddol. Lloffiwr 21:49, 24 Mehefin 2007 (UTC)Ateb

Ailwampio golygu

Mae'r gwybodlen hwn yn edrych yn ddigysgod iawn. Oes modd ailwampio fe (a gwybodlenni eraill) fel yr un sydd ar EN? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau

Dydy o ddim yn drawiadol iawn, mae'n sicr. Y broblem efo ailwampio gwybodlenni ydy'r geiriau; os ydy un o'r "paramedrau", e.e. 'Siaradwyr iaith gyntaf:' yn cael ei newid o gwbl bydd rhaid wneud yr un newid ar bob tudalen lle ceir y wybodlen (ugeiniau lawer!). Ond os medri di ychwanegu dipyn o liw a steil mae croeso i ti wneud hynny, wrth gwrs. Anatiomaros 21:30, 4 Mai 2010 (UTC)Ateb
ON Ar ôl gweld be dwedais yn yr adran uchod - am newid 'Rheolir gan'(!) - dyna pam wnes i ddim newid o: gormod o hasl! Mae gwir angen bot yma i wneud gwaith llafurus a diflas o'r fath. Anatiomaros 21:33, 4 Mai 2010 (UTC)Ateb
(Ond mae 'na ffordd i osgoi hynny yn yr achos yma: gweler hyn). Anatiomaros 21:39, 4 Mai 2010 (UTC)Ateb
Bydda i'n meddwl am dipyn wedyn dod yn ôl. Un o'r pethau mwyaf "hyll" yw'r testun ei hun - dyw "Times New Roman" ddim yn foddhaol yn esthetaidd, dydy?! Ha. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:46, 4 Mai 2010 (UTC)Ateb
Mae'n iawn yn ei le, ond mae o braidd yn ddiflas o ddiddychymyg hefyd. Cofia dydy pob ffont ddim yn gweithio'n dda efo acenion hefyd - dyna unig fantais TNR efallai. Y peth gorau i'w wneud ydy arbrofi a gwirio'r effaith mae'n cael: digon hawdd dadwneud unrhyw newid. Anatiomaros 21:59, 4 Mai 2010 (UTC)Ateb

Bellach mae gennym Nodyn:Gwybodlen iaith sy'n hollol newydd ac yn edrych yn well - gweler Cymraeg am enghraifft. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:56, 3 Ebrill 2011 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Gwybodlen Iaith".