Sgwrs Wicipedia:Pigion

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Oes ots gennych petawn yn dileu'r erthygl ar y Normaniaid. Mae'n fler fel ag y mae, dwi'n meddwl (nid o ran politics y peth). A dwi'm yn siwr os oes angen yr erthygl ar y glaw mawr yn Lloegr yn 2007 chwaith; mi allwn feddwl am erthyglau llawer gwell ar y dudalen flaen: beth am T Llew Jones, efallai? Syniad gwych oedd rhoi 'Comic Reflief' arno. Da iawn. Llywelyn2000 22:32, 16 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Gan nad oes neb wedi gwrthwynebu mi wnai ddileu'r erthygl ar y Normaniaid a rheoi un ffres ar T Llew Jones. Yn ail: o dan y pennawd 'Y Celtiaid' fe geir erthygl ar drydan! Gwefr a hanner! Yn drydyd: oes system ar gael sy'n newid yr erthyglau - hy eu gosod yn eu lle yn otomatig - neu a oes raid gwneud hyn gyda llaw? Dwi'n chwilio am raglen / cloc wneith newid delwedd yn otomatig unwaith yr wythnos. Llywelyn2000 21:25, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Mae Defnyddiwr:Tivedshambo, sy'n ddysgwr, yn gwneud y gwaith o ddewis a gosod y Pigion (er mwyn cael "niwtraliaeth" eto; a chwarae teg iddo am gynnig ei wasanaeth hefyd). Cael eu hailgylchu maen nhw ar hyn o bryd, ac eithrio ambell ychwanegiad. Efallai taw'r Caffi yw'r lle gorau i gael barn pobl? Dwi'n rhy brysur efo pethau eraill fy hun: y peth pwysig ydy cael newid bob hyn a hyn. Anatiomaros 21:40, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Does gen i ddim problem efo gwaith gwych Tived, gresyn nad yw'n bosib otomeiddio rhannau o Wici, fodd bynnag e.e. lleuad llawn pan fo hwnnw ar gael, delwedd y dydd / wythnos yn cael ei osod yn otomatig. Byddai hyn yn dy ryddhau, tived, I wneud pethau eraill. W! Peth am ddefnyddio rhaglen Perl o fewn Wici? Diolch am dy ymateb, Anatiomaros, rwyt ti'n bair o wybodaeth. Llywelyn2000 21:46, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Wps- oes angen gofyn caniatad i newid pigion? Rwyf wedi newid un i fod yn drydan-Nodyn:Pigion/Wythnos 17. Mae angen mwy o bigion gwyddonol yn fy marn i! Rhys Thomas 21:48, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Dwn im am hynny, ond cofia newid y teitl o Celtiaid i Trydan!!! Gyda llaw, 'gwefr' ydy'r hen air Cymraeg am drydan (ac 'amber' - sy'n rhoi sbarc os wyt ti'n ei rwbio). Piti na wnest ei roi yn lle 'Y Normaniaid' - does dim cig ar yr asgwrn hwnnw! Llywelyn2000 21:58, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Sut yr ydych yn newid y teitl?- does dim teitl i Nodyn:Pigion/Wythnos 17. Rydym yn dal i defnyddio'r gair 'gwefr' yn yr ysgol- y cymraeg am charge ydy o! Rhys Thomas 22:01, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Dydwi ddim yn gwybod yn iawn. Mi wnes i o unwaith ond dwi wedi anghofio! Gwell i ti ofyn i Tivedhsambo (ar ei gyfrif en, efallai?). Anatiomaros 22:08, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
A synwn i ddim, Rhys, mai o'r hen air 'gwefr' y daeth 'gwifr' ac yna wires! Swnio'n debyg i Iolo Morgannwg! Llywelyn2000 22:30, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Mater bach, ffrindia! Dim ond agor y brif erthygl yn hytrach na rhan, sgrolio i lawr ac yna ei newid. Llywelyn2000 22:33, 7 Ebrill 2009 (UTC)Ateb


A oes modd i gysylltu'r lluniau a'r erthyglau pan glicir arnynt? Byddai hynny'n fwy o gymorth na mynd i ryw dudalen am fanylion y llun eu hun. Diolch yn fawr, a pheidiwch a phoeni os ydy hynny'n rhy gymhleth i'w gyflawni, ond byddai'n welliant.

(Neu byddai cysylltiadau rhwng teitlau'r adrannau a'r erthyglau o gymorth hefyd, os yn haws.)

Cofion, Boncyff derwen

Return to the project page "Pigion".